Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
Ymunodd Aime â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn 2023. Mae ganddi radd Meistr mewn Marchnata Strategol, ac mae hi wedi gweithio mewn swyddi digidol a swyddi cyfathrebu sy’n cael eu harwain gan gynnwys, a hynny mewn timau brandio mewnol yn y sector breifat, asiantaethau, ac yn y trydydd sector.
Fel Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu, mae Aime yn arwain y gwaith o ddatblygu cynnwys, ysgrifennu copi, cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus, yn ogystal â gwaith cyfathrebu digidol ehangach sy’n cefnogi blaenoriaethau sefydliadol. Mae hyn yn cynnwys bod yn gyfrifol am ddarparu cyfathrebiadau effeithiol sy’n cefnogi ein prosiectau, ein rhaglenni a’n partneriaethau.
Mae Aime yn gweithio’n agos gydag arweinwyr ein prosiectau a rhanddeiliaid allanol i gynllunio a darparu datganiadau i’r wasg, straeon newyddion, blogiau, astudiaethau achos, a straeon am gleifion sy’n tynnu sylw at yr effaith y mae ein gwaith a’n harloesedd yn ei chael ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.