Rheolwr Cyfryngau Digidol
Mae Catrin yn weithiwr proffesiynol dwyieithog ym maes cyfryngau digidol a chyfathrebu strategol, ac mae ganddi brofiad o weithio ar draws sectorau creadigol, hyfforddiant a gwyddorau bywyd Cymru. Fel Rheolwr Cyfryngau Digidol yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae hi’n arwain gwaith y sefydliad ar hysbysebion y telir amdanynt, datblygu gwefannau, ymgyrchoedd a chynhyrchu fideos.
Fe wnaeth ei swyddi blaenorol yn TEC Cymru, Real SFX a Sgil Cymru ddatblygu ei harbenigedd mewn trawsnewid digidol, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a chynhyrchu cynnwys dwyieithog, gan helpu sefydliadau i gyfleu syniadau cymhleth mewn ffyrdd clir a hygyrch.