Arweinydd Partneriaeth
Mae gan Delyth 20 mlynedd o brofiad yn gweithio fel rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau a Chontractau o fewn sefydliad trydydd sector cenedlaethol. Mae Delyth hefyd wedi cymhwyso ym methodoleg prosiect PRINCE2 ac mae ganddi brofiad mewn dulliau ystwyth o gyflwyno prosiectau. Cyn gweithio yn y trydydd sector, dechreuodd Delyth ei gyrfa ym maes rheoli gwybodaeth o fewn GIG Cymru, gan fwynhau rolau amrywiol yn gweithio ym maes archwilio meddygol, codio clinigol a gwybodeg.