Gweinyddwr Llywodraethu
Mae Emma yn gweithio yn Nhîm Gweithrediadau’r sefydliad, gan gynorthwyo’r Pennaeth Llywodraethu, Risg a Chydymffurfiaeth mewn sawl maes llywodraethu gan gynnwys adolygu polisïau, archwilio mewnol, rheoli asedau a chynorthwyo mewn cyfarfodydd y Bwrdd a’r Pwyllgor.
Mae Emma wedi gweithio i’r sefydliad ers 2018, gan ddechrau fel Cynorthwyydd Personol i’r Cadeirydd a’r Prif Swyddog Gweithredol. Wedyn, fe aeth ymlaen i weithio fel Cynorthwyydd Personol i’r Cadeirydd a’r Bwrdd, cyn ymgymryd â’r swydd hon ddwy flynedd yn ôl. Bu Emma hefyd yn Gynorthwyydd Personol i Gadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae gan Emma radd Baglor yn y Celfyddydau mewn Economeg, ac mae’n gweithio tuag at gael Tystysgrif mewn hyfforddiant Llywodraethu Corfforaethol.