Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd
Ymunodd Rhodri â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru fel Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd ym mis Medi 2020, yn dilyn cyfnod o dair blynedd yn gwasanaethu’r sefydliad fel aelod o’r bwrdd. Mae wedi dal amrywiaeth o swyddi uwch-reoli yn y sector masnachol, y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol gan weithio gyda darparwyr gofal iechyd, cyrff fferyllol a thechnoleg feddygol yn rhyngwladol, gan ddarparu partneriaethau cyhoeddus preifat, rhaglenni trawsnewid mawr a rhaglenni mabwysiadu gwasanaethau a thechnoleg newydd.
Yn ei swyddi blaenorol bu’n Gyfarwyddwr i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac yn Rheolwr Cyffredinol i Current BioData, sy’n gyflenwr sylfaen wybodaeth i’r maes fferylliaeth byd-eang. Mae Rhodri hefyd wedi cyd-sefydlu Societas Management a bu’n gynghorydd buddsoddi am dros ddegawd gan gefnogi datblygiadau i adael, gan reoli perthnasoedd â chyd-fuddsoddwyr a chynghori ar strategaethau ar gyfer portffolio gofal iechyd amrywiol gan gynnwys mentrau ar y cyd â'r GIG.