Cynhadledd genedlaethol ASDC yw prif gynulliad y DU ar gyfer unrhyw un sy’n frwd dros ysbrydoli chwilfrydedd, creadigrwydd a meddwl yn feirniadol drwy wyddoniaeth a darganfod.
Am ddau ddiwrnod, mae cymuned canolfan wyddoniaeth a darganfod y DU yn dod at ei gilydd o dan yr un to, ac am y tro cyntaf byddwn ni yng Nghymru yn Techniquest yng Nghaerdydd, yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed eleni!
Mae’r gynhadledd egnïol a bywiog hon yn gyfle i lunio dyfodol addysg ac allgymorth STEM, meithrin partneriaethau newydd ar draws sectorau, ac arddangos sut mae canolfannau gwyddoniaeth a darganfod, amgueddfeydd a sefydliadau allgymorth yn sbarduno effaith gymdeithasol ar raddfa genedlaethol. Ochr yn ochr ag aelodau ASDC, byddwn ni’n croesawu arbenigwyr addysg STEM, gweithwyr proffesiynol ymgysylltu â’r cyhoedd, ymchwilwyr, arweinwyr diwydiant, sefydliadau diwylliannol, cyllidwyr ac arloeswyr i ymuno â’r sgwrs, gan ganolbwyntio ar thema eleni - Pwy sy’n poeni am wyddoniaeth?