Gwahoddir ymchwilwyr canser, clinigwyr a chynrychiolwyr cynnwys cleifion a’r cyhoedd o bob cwr o Gymru i ddod i Gynhadledd Ymchwil Canser Cymru 2027.
Mae’r gynhadledd, sydd bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, yn gyfle i’r gymuned ymchwil canser yng Nghymru ddod ynghyd ar draws arbenigeddau, sefydliadau a meysydd ymchwil i rannu gwybodaeth, meithrin cysylltiadau ac archwilio’r datblygiadau diweddaraf yn y maes. Disgwylir i’r digwyddiad, sydd wedi’i drefnu gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC), groesawu rhwng 350 a 400 o gynrychiolwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt.
Bydd y rhai sy’n bresennol yn cynnwys ymchwilwyr canser clinigol ac academaidd, gweithwyr proffesiynol ymchwil a datblygu o’r GIG a phrifysgolion, cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a sefydliadau cyllido, yn ogystal ag aelodau o’r gymuned cynnwys cleifion a’r cyhoedd (PPI).
Bydd y digwyddiad yn cynnwys siaradwyr o Gymru a ledled y Deyrnas Unedig, a bydd yn rhoi sylw i bynciau pwysig a datblygiadau diweddar mewn ymchwil canser.