Trydydd parti
,
-
,
Y Senedd, Heol Pierhead, Bae Caerdydd, CF99 1SN

Dewch i ymuno â’n dathliad HUG a fydd yn dod â gweithwyr iechyd proffesiynol at ei gilydd i ystyried sut mae’r cynnyrch HUG wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi llesiant gan bobl Gwent. Byddwn hefyd yn trafod y camau nesaf ar gyfer HUG a thechnoleg gynorthwyol arall drwy ein system iechyd a gofal.

An elderly lade hugging the sensory therapeutic product created by HUG

Mae’n bleser gennym eich gwahodd i’r Senedd ar gyfer y digwyddiad rhwydweithio a dathlu hwn. Bydd y digwyddiad yn rhannu enghreifftiau o’r ‘arferion gorau’ o ddefnyddio’r cynnyrch HUG i gefnogi llesiant unigolyn, ac yn archwilio sut mae cynhyrchion HUG a chynhyrchion technoleg gynorthwyol eraill yn cael eu defnyddio ac y gellir eu defnyddio i gefnogi canlyniadau iechyd a llesiant. 

Mae’r HUG yn gynnyrch therapiwtig synhwyraidd a ddatblygwyd drwy ymchwil prifysgol, ac fe’i lansiwyd fel cynnyrch drwy'r cwmni deillio HUG, gan LAUGH (www.HUG.world) mewn cydweithrediad â'r Gymdeithas Alzheimer’s. Mae wedi’i gynllunio i roi cysur a hapusrwydd.

Drwy gydol 2022, mae HUG wedi cael ei dreialu ledled Gwent drwy gyllid Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, gyda chanlyniadau cadarnhaol. Ymunwch â ni yn y digwyddiad hwn i glywed am y prosiect hyd yma, sy’n cynnwys amrywiaeth o bobl sydd wedi bod yn rhan o gynllun peilot HUG. 

Byddwch yn gallu rhoi cynnig ar ddefnyddio HUG, clywed am y dystiolaeth ymchwil y tu ôl iddo, a sut mae partneriaid ledled Gwent wedi bod yn defnyddio’r cynnyrch HUG. 

Ar ôl cinio rhwydweithio, byddwn yn archwilio potensial cynhyrchion a gwasanaethau technoleg gynorthwyol fel HUG, ac yn archwilio beth sydd nesaf ar gyfer dyfodol technoleg gynorthwyol therapiwtig ledled Cymru. 

Mae’r digwyddiad hwn yn gydweithrediad rhwng y GIG, diwydiant a’r byd academaidd. Mae’n cael ei drefnu gan Brifysgol Gorllewin Lloegr Bryste, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Noddir y digwyddiad gan Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu ar 7 Rhagfyr 2023. Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio. 

Mae'r digwyddiad hwn yn agored i unrhyw un o'r sector cyhoeddus sy'n gweithio yng ngofal iechyd, gofal cymdeithasol, y llywodraeth neu'r trydydd sector, sydd â diddordeb mewn defnyddio technoleg gynorthwyol i gefnogi gofal i bobl â dementia, anableddau dysgu neu'r rhai sy'n niwroamrywiol.

Cofrestrwch eich lle