Trydydd parti
-
Marina Bay Sands, Singapore

Gyda hanes sydd wedi hen ennill ei blwyf ers 1997, mae Ffair Feddygol Asia yn parhau i dyfu o nerth i nerth fel digwyddiad meddygol a gofal iechyd rhyngwladol mwyaf sefydledig De Ddwyrain Asia

Conference exhibition area. There are stands all over with attendees talking.

Gan ganolbwyntio ar offer a chyflenwadau ar gyfer y sectorau ysbyty, diagnostig, fferyllol, meddygol ac adsefydlu, mae Ffair Feddygol Asia yn rhoi’r cyfleoedd busnes gorau i chi lywio eich ffordd drwy’r farchnad yn Ne Ddwyrain Asia.

Denodd yr arddangosfa ddiweddaraf hon 1,050 o arddangoswyr rhyngwladol a dros 14,000 o ymwelwyr masnach o 70 o wledydd a rhanbarthau.

Bydd y digwyddiad ei hun yn cael ei ategu gan estyniad digidol wythnos o hyd, i sicrhau bod arddangoswyr ac ymwelwyr yn gallu parhau i rwydweithio a chynnal busnes gyda chynulleidfa fyd-eang.

 

Ffair Feddygol Asia
Cofrestrwch eich lle heddiw!