Trydydd parti
,
-
,
Mae’n bleser gennym wahodd cynrychiolwyr i gofrestru ar gyfer Fforwm Diwydiant Canser Cymru.

Sefydlwyd Fforwm Diwydiant Canser Cymru i gynyddu cynhwysiant, cynrychiolaeth a chydweithrediad rhanddeiliaid y diwydiant, ac i roi cyfle i’r sefydliadau hynny roi mewnbwn ar ganlyniadau canser yng Nghymru.
Mae’r Fforwm Diwydiant yn gweithredu fel rhyngwyneb rhwng diwydiant, Rhwydwaith Canser Cymru a’i grwpiau rhanddeiliaid ehangach. Prif bwrpas y Fforwm Diwydiant yw darparu dull ychwanegol o ymgysylltu rhwng y sefydliadau fferyllol, biodechnoleg a chyrff masnachol eraill a’r GIG yng Nghymru. Mae’n ffordd o gyfathrebu a chynrychioli’n dryloyw ar draws y sector, ac o gydlynu nodau ac adnoddau strategol y sector drwy bartneriaeth a chydweithio.