Trydydd parti
,
-
,
Prifysgol Caerdydd, Prif Adeilad, Plas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT

Nod y gweithdy yw helpu’r rhai sy’n bresennol i ddatblygu eu gwybodaeth am wahanol agweddau crefyddol ar ofal iechyd er mwyn iddyn nhw allu deall anghenion cleifion yn well a sut gallai’r rhain fod yn gysylltiedig â heriau moesegol wrth ofalu amdanyn nhw.

A small group of medical professionals gather around a table as they meet together to discuss patient cases. They are each dressed professionally and have files scattered between them for reference.

Bydd y gweithdy’n cynnwys sgyrsiau byr gan gaplaniaid sy’n cynrychioli amrywiaeth o draddodiadau ffydd ar agweddau ar ofal iechyd sy’n arbennig o bwysig i’w cymunedau crefyddol. 

Bydd y cyfranogwyr yn gallu gofyn cwestiynau i’r caplaniaid, rhannu eu profiadau eu hunain o ofalu am gleifion o wahanol gefndiroedd ffydd, neu egluro arferion pwysig eu cymunedau crefyddol eu hunain, os byddan nhw’n dymuno gwneud hynny. 

Y gobaith yw y bydd rhai sy’n bresennol yn teimlo’n fwy parod i ddelio â chyfyng-gyngor moesegol ar y croestoriad rhwng crefydd a gofal iechyd erbyn diwedd y gweithdy.

 

Gweithdy Cyn-Gynhadledd UKCEN 2026
Cofrestrwch eich lle heddiw!