Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
,
-
,
Y Ganolfan Rheolaeth, Ysgol Fusnes Bangor
Dewch draw i'r digwyddiad rhyngweithiol wyneb yn wyneb hwn i ddathlu ac i ddatblygu arloesedd canser mewn Gofal Sylfaenol yng Nghymru.
Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru mewn partneriaeth ag Academi'r Gwyddorau Meddygol, ac yn rhan o Raglen Traws-sector y DU gyfan a bydd yn hyrwyddo dulliau cydweithredol o wella canlyniadau canser a phrofiadau gofal.
Beth i’w ddisgwyl
- Sgyrsiau ysbrydoledig gan arweinwyr clinigol a chynrychiolwyr cleifion
- Sesiynau grŵp a fydd yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â rhai o'r prif flaenoriaethau arloesedd canser yng Nghymru
- Trafodaethau panel am gyfleoedd arloesi a'r rhyngwyneb rhwng gofal sylfaenol, eilaidd a chymdeithasol
- Arddangosfa o brosiectau dylanwadol sydd eisoes ar y gweill
- Manylion mentrau a chronfeydd cydweithredol sy'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu syniadau a chydweithio
- Rhwydweithio â chymheiriaid a chwrdd â chydweithwyr posibl newydd
Pam dod i'r digwyddiad?
- Dewch i glywed gan hyrwyddwyr ac arweinwyr clinigol am y cyfleoedd i ddatblygu gofal canser mewn Gofal Sylfaenol
- Cymerwch ran mewn trafodaethau am y prif bethau sy'n galluogi arloesedd, gan ddod â'ch safbwynt chi i'r sgyrsiau
- Cysylltwch ag eraill sydd wedi ymrwymo i arloesedd cydweithredol ym maes Gofal Canser
- Cyfrannwch at gynlluniau i fabwysiadu arloesedd mewn meysydd blaenoriaeth
Pwy ddylai ddod i’r digwyddiad?
- Mae croeso i gydweithwyr o bob sector, gan gynnwys y GIG/Gofal Cymdeithasol, y byd academaidd, y trydydd sector, y llywodraeth a diwydiant.
- Clinigwyr, arweinwyr, ymchwilwyr, arloeswyr, llunwyr polisïau ac eiriolwyr cleifion - ymunwch â ni i ddangos sut gall cydweithio sbarduno arloesedd canser yng Nghymru.
Am fynychu?
Cofrestrwch heddiw i gadw eich lle ac i siapio dyfodol gofal canser yng Nghymru.