Trydydd parti
-
All Nations Centre, Caerdydd
Bydd cydweithwyr o’r GIG o bob rhan o Gymru, cwmnïau lleol, a sector y diwydiant yn ehangach yn dod at ei gilydd i rannu arloesedd clinigol ymarferol i wella canlyniadau cleifion.
Prif siaradwyr 2026:
- Jacqueline Totterdell, Prif Weithredwr GIG Cymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar
- Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru
Dyma nodau’r gynhadledd:
- Arddangos y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan gymunedau iechyd a gofal yng Nghymru.
- Gwella’r cydweithio rhwng y byrddau iechyd, diwydiant a chymunedau ymchwil.
- Codi proffil GIG Cymru ac arloesedd clinigol ledled y DU.
- Cefnogi cysylltiadau gwaith agosach rhwng diwydiant, y GIG a grwpiau ymchwil a threialon clinigol.