Peidiwch a fethu'r unig ddigwyddiad blynyddol yng Nghymru sy'n ymroddedig i Therapïau Datblygedig.
Mae’r symposiwm pwysig hwn, sydd wedi'i osod yn erbyn cefndir bywiog y glannau, yn dod ag ymchwilwyr, clinigwyr, partneriaid yn y diwydiant, a llunwyr polisi at ei gilydd i archwilio'r llwybr llawn o'r fainc i ochr y gwely. Mae thema eleni, “Ymestyn Allan – Tyfu Trwy Gydweithio” yn tynnu sylw at y pŵer o weithio mewn partneriaeth i gyflymu arloesedd a mynediad i gleifion.
Boed yn newydd i'r maes neu'n arbenigwr profiadol, mae'r symposiwm yn cynnig amgylchedd cynhwysol i ddysgu, cysylltu a chyfrannu. Gallwch fwynhau rhaglen ddeinamig, siaradwyr ysbrydoledig, trafodaethau diddorol, y cyfle i rannu eich gwaith ar ffurf poster, a digonedd o stondinau diddorol gan arddangoswyr.
Bydd cyfle i rwydweithio gyda chydweithwyr, cyfnewid syniadau, a chymryd rhan yn y sgyrsiau sy'n llunio dyfodol therapïau datblygedig. Cadwch lygad am gyhoeddiadau siaradwyr a manylion am sut i gyflwyno posteri. Cofrestrwch yn gynnar i gadw eich lle - a dewch yn rhan o gymuned sy'n tyfu ac sy'n datblygu therapïau arloesol, ac sy'n eu cyflwyno i gleifion ar draws Cymru a thu hwnt.