Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
,
-
,

Ydych chi’n gweithio ym maes ymchwil, arloesi, neu ddarparu gofal iechyd yng Nghymru? Ydych chi’n chwilio am gymorth i ddod o hyd i alwadau cyllido, ac i wneud cais amdanynt?

Room full of people at an event.

Mae cyfleoedd cyllido newydd ar gyfer 2026/27 ar y gorwel, felly ymunwch â’r sesiwn hon, sy’n cael ei chynnal gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru mewn partneriaeth ag Academi’r Gwyddorau Meddygol, i gymryd rhan mewn dosbarth meistr ar ysgrifennu ceisiadau.

Os ydy ysgrifennu ceisiadau cyllid yn rhywbeth newydd i chi, neu os ydych chi eisiau gloywi eich sgiliau, mae’r sesiwn yn cynnig awgrymiadau ymarferol, cipolwg ar alwadau cyllido cyfredol a chyfle i gwrdd â chydweithwyr o sectorau eraill.

Beth i'w ddisgwyl:

  • Sesiwn rhannu gwybodaeth ar gyfer ysgrifennu a chyflwyno ceisiadau am gyllid
  • Mynediad at wybodaeth am gyfleoedd cyllido cyfredol
  • Cyfle i ddysgu sut gall Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac Academi’r Gwyddorau Meddygol barhau i’ch cefnogi chi

Pwy ddylai ddod i’r digwyddiad?

Mae’r digwyddiad hwn yn agored i weithwyr o bob sector, gan gynnwys:

  • GIG a gofal cymdeithasol
  • Y byd academaidd ac ymchwil (yn enwedig os ydych chi mewn swyddi ar ddechrau eich gyrfa)
  • Gwyddorau bywyd a’r diwydiant
  • Sefydliadau trydydd sector a sefydliadau cymunedol

 

Troi’r syniad yn gais: Dosbarth meistr cyllid i gymuned arloesi Cymru
Cofrestrwch eich lle heddiw!