Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw’r Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i dreialu’r dechnoleg arloesol Dyraniadau Isfwcosa Speedboat.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) yw’r Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i dreialu’r dechnoleg arloesol Dyraniadau Isfwcosa Speedboat i drawsnewid y llwybr triniaeth ar gyfer cleifion sydd â polypau y colon a’r rhefr cymhleth. Mae’r ddyfais arloesol hon, a ddatblygwyd gan gwmni technoleg feddygol o Gymru, Creo Medical, yn cynnig y dewis amgen, llai ymyrrol, yn hytrach na llawdriniaeth draddodiadol, gan wella canlyniadau cleifion a lleihau amseroedd adferiad yn sylweddol.
Ar hyn o bryd, mae cleifion sydd â pholypau cymhleth yn aml yn wynebu sawl triniaeth neu lawdriniaeth fawr, a all arwain at amseroedd adferiad hir a risgiau uwch. Mae dyfais Speedboat yn caniatáu i glinigwyr wneud un driniaeth llai ymyrrol i dynnu polypau yn effeithiol, gan leihau'r angen am lawdriniaeth a galluogi cleifion i wella'n gyflymach. Mae cyflwyno’r dechnoleg hon yn mynd i’r afael â bwlch critigol mewn gwasanaethau triniaeth yng Nghymru.
Dywedodd y Dr. Alka Joshi, Arweinydd Clinigol y peilot:
“Mae’r cynllun peilot hwn yn gam sylweddol ymlaen i’n cleifion. Trwy ddefnyddio dyfais Speedboat, gallwn gynnig dewis arall mwy effeithlon, llai ymyrrol yn hytrach na dulliau llawfeddygol traddodiadol, gan wella canlyniadau a lleihau amseroedd aros."
Ers lansio'r cynllun peilot cyn y Nadolig, mae tri chlaf wedi cael y driniaeth yn llwyddiannus ac nid oes unrhyw gymhlethdodau wedi'u cofnodi. Cwblhawyd pob triniaeth mewn un sesiwn, a rhyddhawyd pob claf o’r ysbyty yr un diwrnod. Aeth un claf yn ôl i wneud gweithgareddau arferol hyd yn oed, gan gynnwys siopa Nadolig, y diwrnod canlynol.
Gyda chefnogaeth Grŵp Diogelwch ac Effeithiolrwydd Clinigol y Bwrdd Iechyd, cefnogir y peilot gan raglen addysg glinigol ar y safle Creo, sy’n golygu y gellir hyfforddi clinigwyr mewn misoedd yn hytrach na dros sawl blwyddyn. Mae’r model mentora hwn yn galluogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ymgorffori’r driniaeth yn gyflym tra’n sicrhau diogelwch a chost-effeithiolrwydd, gan greu glasbrint posib y gellir ei fabwysiadu ar draws byrddau iechyd eraill yng Nghymru.
Dywedodd Rob Holcombe, Cyfarwyddwr Cyllid ac Arweinydd Gweithredol Arloesi yn BIPAB:
“Rydym yn falch o hyrwyddo’r dechnoleg arloesol hon o Gymru yn BIPAB. Mae llwyddiant cynnar y cynllun peilot hwn yn amlygu ymrwymiad y Bwrdd i ddarparu datrysiadau sy'n gwella gofal cleifion, yn lleihau'r pwysau ar wasanaethau llawfeddygol ac yn dangos dull Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan o fabwysiadu arloesedd meddygol trwy werthuso canlyniadau 'gofal iechyd yn seiliedig ar werth."