Oes gennych chi arloesedd sy’n gweithio’n dda ac sy’n barod i gyrraedd mwy o bobl? Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer yr Academi Lledaenu a Graddio, sy’n dychwelyd i Gaerdydd yn 2027.
Mae Sefydliad Calon y Ddraig yn cynnal yr Academi fel rhan o’r Academi Dysgu Dwys Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’n helpu timau i fynd â syniadau sydd wedi’u profi o un lle i lawer. Dros dri diwrnod, bydd timau’n gweithio gydag arbenigwyr a chymheiriaid o bob rhan o Gymru i lunio cynllun ymarferol ar gyfer lledaenu eu gwaith. Byddant yn gadael gyda’r hyder, yr adnoddau a’r cysylltiadau i wireddu hynny.
Mae’r Academi ar agor i dimau o bob rhan o GIG Cymru, gofal cymdeithasol, llywodraeth leol, y trydydd sector, y byd academaidd a diwydiant.
Mae un llwyddiant diweddar yn dangos beth sy’n bosibl. Yn 2021, ymunodd Dr Charlotte Oliver a’i thîm o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro â’r Academi i fynd i’r afael ag allyriadau ocsid nitrus. Arweiniodd eu gwaith at N2O Clear, technoleg sy’n lleihau allyriadau o nwy ac aer mewn wardiau esgor hyd at 99%. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ariannu unedau ar gyfer pob bwrdd iechyd yng Nghymru, ac mae’r dechnoleg ar ei ffordd i ysbytai ledled y DU ac Iwerddon. Darllenwch stori Charlotte: https://dragonsheart.org/cy/frontline-innovation-reaches-national-scale-through-collaboration-across-wales-innovation-ecosystem/
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mawrth 19 Ionawr 2027.
Dysgwch fwy a gwnewch gais.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Bryn Kentish: bryn.kentish@wales.nhs.uk