Trydydd parti

Mae modd cyflwyno enwebiadau nawr ar gyfer Gwobrau Canser Moondance 2026! Dyma’r unig wobrau ar gyfer canser yn benodol yng Nghymru.

Group of people having their photo taken at an awards ceremony.

Cynhelir Gwobrau Canser Moondance bob dwy flynedd, a’u nod yw dathlu a thynnu sylw at unigolion, timau, a phartneriaethau ar draws GIG Cymru a’i bartneriaid sy’n darparu, yn arwain ac yn arloesi ym maes gwasanaethau canser.

Yng ngwobrau 2024, cafodd y timau a ddaeth i’r brig eu cydnabod am ddatblygiadau arloesol amrywiol a oedd yn cynnwys amddiffynwyr llygaid ar ffurf print 3D ar gyfer radiotherapi i ehangu gwasanaethau canser i bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc, cynllun peilot gweithredol ar gyfer archwiliadau iechyd yr ysgyfaint yng Nghymru, a gwella tegwch gofal i gleifion canser metastatig y fron. Roedd y gwobrau i unigolion yn cydnabod y rheini y mae eu harweinyddiaeth wedi ailffurfio llwybrau ac wedi gwella canlyniadau i gleifion ledled Cymru.

Mae’r gwobrau’n cael eu trefnu’n annibynnol gan Moondance Cancer Initiative, sy’n canfod, yn ariannu ac yn ysgogi pobl arbennig a syniadau dewr i wneud Cymru yn arweinydd byd-eang ym maes goroesi canser. Dywedodd Wendy Evans, rheolwr gyfarwyddwr Moondance Cancer Initiative:

“Ar hyd a lled Cymru, mae’r rheini sy’n gweithio ym maes gwasanaethau canser yn gwneud gwaith eithriadol o dan bwysau mawr. Mae llawer o’r gwelliannau rydyn ni’n eu gweld yn cael eu siapio gan gydweithio – boed hynny ar draws timau, sefydliadau neu sectorau. Mae Gwobrau Canser Moondance yn tynnu sylw at unigolion, timau a phartneriaethau sy’n troi uchelgais yn weithred.

“Os ydych chi wedi newid llwybr, cryfhau gwasanaeth, neu wella profiad cleifion, boed hynny’n welliant lleol neu’n ddatblygiad ar lefel genedlaethol, rydyn ni eisiau clywed gennych chi.

“Drwy gydnabod a dathlu effaith, gallwn helpu syniadau gwych i fynd ymhellach.”

Dywedodd Jody Parker, Llawfeddyg Ymgynghorol y Colon a’r Rhefr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac un o enillwyr gwobrau 2024 am ei gwaith yn arwain Gwasanaeth Metastasis Peritoneol y Colon a’r Rhefr Cymru Gyfan:

“Mae cael cydnabyddiaeth yn y gwobrau yn anhygoel. Mae’n symbol o’r holl waith caled sy’n cael ei wneud gan bawb y tu ôl i’r llenni, sy’n gweithio’n galed o ddydd i ddydd i sicrhau bod cleifion yn dal i elwa o’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu.”

Bydd y Noson Dathlu a Gwobrwyo yn cael ei chynnal yn Depot, Caerdydd, ddydd Iau 11 Mehefin 2026. Bydd y noson, gyda’r darlledwr Owain Wyn Evans wrth y llyw, yn dangos doniau Cymru y tu hwnt i enillwyr y gwobrau, gyda bwyd stryd gan werthwyr lleol a cherddoriaeth fyw gan fand o Gymru. Bydd yr holl enwebeion ar y rhestr fer, a’r rheini sydd wedi’u henwebu, yn derbyn tocynnau am ddim i’r digwyddiad gan Moondance Cancer Initiative i gydnabod eu hymroddiad a’u hymrwymiad i wasanaethau canser ledled Cymru.

Gyda 10 gwobr ar draws tri chategori, mae Gwobrau Canser Moondance yn dangos gwaith dylanwadol ar bob cam ar hyd y llwybr canser. Mae gwobrau 2026 yn cynnwys y canlynol:

Cyflawniad

Mae’r categori hwn yn cydnabod unigolion, timau a phartneriaethau sydd wedi

gwneud newid cadarnhaol yn bosibl i bobl y mae canser yn effeithio arnynt. Mae’r gwobrau’n cynnwys:

  • Gwella Profiad Cleifion
  • Gweithio gyda’n Gilydd
  • Cydweithio â Phartneriaid
  • Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd

Arloesi a Gwella

Mae’r categori hwn yn dathlu unigolion a thimau sydd wedi arloesi neu wella gwasanaethau canser yn uchelgeisiol ac yn effeithiol, gan arwain at welliannau ystyrlon i bobl y mae canser yn effeithio arnynt. Mae’r gwobrau’n cynnwys:

  • Canfod a Gwneud Diagnosis
  • Triniaeth Canser
  • Gweithlu Canser

Rhagoriaeth

Mae’r categori’n tynnu sylw at unigolion y mae eu harweinyddiaeth, eu gwaith cydlynu, a’u hymarfer o ddydd i ddydd wedi sbarduno newid ystyrlon mewn gwasanaethau canser, gan arwain at ganlyniadau a phrofiadau gwell i bobl y mae canser yn effeithio arnynt yng Nghymru.  Mae’r gwobrau’n cynnwys:

  • Arwain a Darparu Gwasanaethau Canser
  • Ymarfer Nyrsio, Clinigol a Diagnostig
  • Meddygol

Bydd y cyfnod enwebu’n cau ddydd Mercher 15 Ebrill. I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau ac i gyflwyno enwebiad, ewch i'r gwefan.