Trydydd parti

Bydd Cymru yn dod yn genedl Marmot yn rhan o waith parhaus Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

A child smiling and running in a field

Mae hyn yn cynnwys mabwysiadu wyth egwyddor yr arbenigwr iechyd cyhoeddus, Syr Michael Marmot. Nod yr egwyddorion yw ceisio dileu gwahaniaethau annheg y gellid eu hosgoi ym maes iechyd, gwahaniaethau sy’n gallu cael eu hachosi gan ble y mae pobl yn byw, pa fath o waith y maen nhw’n ei wneud a sut y maen nhw’n cael eu trin mewn cymdeithas.

Mae hyn yn dilyn llwyddiant Torfaen, a fabwysiadodd egwyddorion Marmot yn gynnar wedi i ardal ehangach Gwent ddod yn rhanbarth Marmot.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles, wedi cytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Sefydliad Tegwch Iechyd, a arweinir gan yr Athro Syr Michael Marmot, ac yn rhoi tegwch iechyd wrth wraidd llunio polisïau a gwneud penderfyniadau ar draws Llywodraeth Cymru.

Yn ymarferol, bydd hyn yn golygu gweithio gyda nifer o gymunedau ar draws Cymru i leihau anghydraddoldebau iechyd gan ddefnyddio egwyddorion Marmot, fel y mae Torfaen wedi’i wneud.

Mae’r ymrwymiad hwn yn adeiladu ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, sy’n gosod dyletswydd gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ac ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau. Yn ddiweddar, nodwyd 10 mlynedd ers y ddeddf.

Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar fabwysiadu’r wyth egwyddor Marmot er mwyn gwneud y canlynol:

  1. Rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i bob plentyn.
  2. Galluogi pob plentyn, person ifanc ac oedolyn i fanteisio i’r eithaf ar ei alluoedd a sicrhau rheolaeth dros ei fywyd.
  3. Creu cyflogaeth deg a gwaith da i bawb.
  4. Sicrhau safon byw iach i bawb.
  5. Creu a datblygu lleoedd a chymunedau iach a chynaliadwy.
  6. Cryfhau rôl ac effaith atal salwch.
  7. Mynd i’r afael â hiliaeth, gwahaniaethu a’u canlyniadau.
  8. Mynd ar drywydd cynaliadwyedd amgylcheddol a thegwch iechyd gyda’i gilydd.

Heddiw (dydd Llun 16 Mehefin) yng Nghaerdydd, bydd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy yn tynnu sylw at ymrwymiad Cymru i ddod yn genedl Marmot yn lansiad adroddiad 'Cymdeithas decach, bywydau iachach' Cyngor Canada-DU.

Dywedodd:

"Mae dod yn genedl Marmot yn golygu cydnabod bod anghydraddoldebau iechyd yn cael eu siapio yn bennaf gan benderfynyddion cymdeithasol iechyd sef yr amodau sy'n gysylltiedig â lle mae pobl yn cael eu geni, yn tyfu, yn byw, yn gweithio ac yn heneiddio.

Yn Nhorfaen, rydyn ni’n gallu gweld newid cadarnhaol ar lefel gymunedol gan fod sefydliadau yn gweithio’n arloesol gyda’i gilydd. Drwy fabwysiadu’r wyth egwyddor Marmot hyn yn genedlaethol, byddwn ni’n cymryd camau ar draws y llywodraeth i hyrwyddo gwell iechyd a llesiant i bawb."

Dywedodd yr Athro Syr Michael Marmot:

"Bydd gan gymdeithas sy’n diwallu anghenion ei haelodau iechyd da a dim ond ychydig o anghydraddoldebau iechyd.

Mae gofal iechyd, wrth gwrs, yn bwysig i iechyd. Ond yr hyn sy’n bwysicach yw amgylchiadau cymdeithasol, fel sydd wedi’u crynhoi yn yr wyth egwyddor Marmot. Mae’r goblygiadau polisi yn glir. Mae polisi iechyd ar gyfer y llywodraeth gyfan, nid dim ond ar gyfer yr adran iechyd neu’r gwasanaeth iechyd."

Dywedodd yr Athro Nicolas Maclean, Cyd-gadeirydd y DU, Cyngor Canada-DU:

"Mae Cyngor Canada-DU yn croesawu’n fawr y fenter newydd bwysig hon gan Lywodraeth Cymru, sy’n dilyn ein colocwiwm blynyddol a gynhaliwyd fis Rhagfyr diwethaf yng Nghaerdydd gan arweinwyr fel Jeremy Miles a Mark Drakeford.

Thema ein colocwiwm, a gafodd ei gadeirio gan Syr Michael Marmot, oedd mynd i’r afael â chanlyniadau iechyd anghyfartal yn y Deyrnas Unedig a Chanada. Bydd y cyhoeddiad heddiw yn gosod esiampl ledled y byd."