Trydydd parti

Mae Gwobrau Canser Moondance yn ôl ac yn derbyn enwebiadau! 

A star/Seren

Mae’r gwobrau’n dathlu ac yn tynnu sylw at bobl ddisglair ymhob rhan o GIG Cymru a’i bartneriaid sy’n darparu, yn arwain ac yn arloesi gwasanaethau canser. Wrth gynnal y gwobrau, mae’r Moondance Cancer Initiative eisiau cydnabod llwyddiannau pobl a thimau sy’n gweithio ymhob rhan o’r llwybrau canfod, diagnosio a thrin canser; ac arddangos y gwaith arloesi a gwella sy’n digwydd ledled y wlad.

Gwahoddir enwebiadau a cheisiadau ar gyfer 10 gwobr. Bydd pawb a fydd ar y rhestr fer, a’r rhai a’u henwebodd, yn cael tocynnau am ddim i’r noson Dathlu a Gwobrwyo ar 13 Mehefin yn y Depot yng Nghaerdydd.

Bydd y Gwobrau’n agored i dderbyn enwebiadau a cheisiadau rhwng dydd Mercher 14 Chwefror a dydd Mercher 10 Ebrill 2024. 

Mae’r holl fanylion, y canllawiau a’r ffurflen enwebu ar gael ar wefan y Moondance Cancer Initiative.