Trydydd parti

Bydd MediWales yn dathlu cryfder y dirwedd arloesi yng Nghymru yn ei ddeunawfed Gwobrau Arloesi blynyddol nos Iau 7fed Rhagfyr 2023, yng Nghaerdydd. Gwnewch gais heddiw i dynnu sylw at effaith eich sefydliad! 

Trophy with glitter and stars

Bydd partneriaid o ddiwydiant, y byd academaidd ac iechyd a gofal cymdeithasol yn y seremoni i gydnabod dyfeisgarwch, egni a phenderfyniad sefydliadau sy’n sbarduno newid cadarnhaol o ran iechyd a llesiant yng Nghymru. 

Mae’r gwobrau wedi’u rhannu ar draws amrywiaeth o gategorïau sy’n croesawu ceisiadau o faes iechyd, diwydiant a gofal cymdeithasol: 

Gwobrau’r Diwydiant 

  • Arloesi 
  • Cychwyn busnes 
  • Partneriaeth â'r GIG 
  • Allforio  
  • Cyflawniad eithriadol 

Gwobrau Iechyd 

  • GIG Cymru yn Gweithio gyda Diwydiant  
  • Technoleg ac Effaith Ddigidol  
  • Cyflymu Arloesedd a Thrawsnewid 
  • Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda’r Diwydiant  
  • Arloesi drwy Gydweithio mewn Gofal Cymdeithasol 

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais ewch i wefan MediWales