Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ‘Strategaeth Ddiwydiannol Fodern y DU’, sy’n manylu ar sut mae’n bwriadu cyflawni twf economaidd i gynyddu buddsoddiad mewn busnesau a thyfu diwydiannau’r dyfodol yn y DU. Roeddem yn falch o weld Cymru’n cael ei chynnwys fel rhanbarth allweddol i helpu i gyflawni hyn.

Mae’r strategaeth yn pwysleisio pa mor bwysig ydyw bod y llywodraeth a diwydiant yn gweithio mewn partneriaeth, gan ganolbwyntio ar sectorau mawr eu twf – gan gynnwys gwyddorau bywyd, gweithgynhyrchu uwch, a’r sector digidol a thechnolegau.
Cyfeiriwyd at ecosystem ddiwydiannol Cymru drwyddi draw, gan dynnu sylw at sut mae ein cenedl yn lle y mae pobl yn ei ddewis ar gyfer arloesi a buddsoddi. Roedd hyn yn cynnwys ein clystyrau gweithgynhyrchu uwch a sut rydym yn cynnal amrywiaeth o gwmnïau gwyddorau bywyd sy’n gystadleuol yn fyd-eang.
Roedd y papur hefyd yn tynnu sylw at sut bydd y strategaeth yn helpu i sbarduno twf yng Nghymru, gan gynnwys buddsoddi yn ein seilwaith rheilffyrdd, cefnogi clwstwr gwyddorau bywyd yn ne Cymru, a buddsoddi mewn gwahanol gyfleusterau gweithgynhyrchu.
Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol, Cari-Anne Quinn:
“Mae gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru brofiad uniongyrchol o’r ystod wych o bartneriaid sy’n rhan o’r diwydiant gwyddorau bywyd yma yn ein gwlad – o fusnesau newydd i gwmnïau rhyngwladol. Roeddem yn falch o gefnogi cyfleoedd twf potensial uchel Sector Gwyddorau Bywyd Cymru i sbarduno twf economaidd ledled y DU drwy strategaeth ddiwydiannol ac edrychwn ymlaen at gefnogi ein cydweithwyr yn Llywodraeth y DU i wireddu hyn.”
I ddarllen y strategaeth yn llawn, ewch i wefan Llywodraeth y DU.