Cymorth Prosiect Rhaglen
Ymunodd Sam â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ym mis Ebrill 2024 ac mae’n gweithio yn y tîm Digidol, Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg, gan ganolbwyntio ar Gomisiwn AI ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae Sam yn gweithio gyda phartneriaid ym maes iechyd, Llywodraeth Cymru a’r byd academaidd yn creu llwybrau effeithiol ar gyfer defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn ddiogel ac yn foesegol yn y GIG.
Mae gan Sam dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ar raglenni a phrosiectau mewn amrywiol rolau yn y sector preifat a chyhoeddus. Mae ganddo raddau mewn Archaeoleg a Chyfrifiadureg.