Daeth yr Arddangosfa Arloesedd mewn Dementia, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â CAV Shaping Change, â meddyliau creadigol a datblygiadau arloesol ynghyd i ddangos sut y gallwn ni wella bywydau cleifion dementia.  

Benyw yn eistedd i lawr gyda chlustffon VR ymlaen

Darllenwch ymlaen i gael crynodeb o rai o’r datblygiadau arloesol gan sefydliadau craff a oedd yn bresennol, gyda phob un wedi’i ddylunio i ddod â chysur, cysylltiad ac annibyniaeth i’r rheini sy’n byw gyda dementia, a’u gofalwyr.  

 

Beth oedd nod y digwyddiad hwn?  

Mae’r Tîm Arloesi o fewn Siapio Newid ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi cydweithio mewn partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i ddod â’r digwyddiad at ei gilydd. Mae’n flaenoriaeth allweddol i’r ddau dîm gydweithio ar draws rhanbarthau, diwydiannau ac arbenigeddau i ysgogi newid ac i fabwysiadu technolegau arloesol y gallai cleifion elwa ohonyn nhw.

Roedd yr Arddangosfa Arloesedd mewn Dementia ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gweithio ledled Cymru. Amcangyfrifir bod tua 900,000 o bobl yn y DU yn byw gyda dementia, ac roedd y digwyddiad nid yn unig yn dangos yr effaith ddofn y mae dementia yn ei chael ar y rhai sy’n cael diagnosis, ond hefyd ar y rhai sydd agosaf atynt.  

Mewn byd sy’n esblygu’n gyson, mae’n galonogol gweld datblygiadau arloesol yn dod i’r amlwg i wella bywydau’r rheini y mae dementia yn effeithio arnynt. Mae yna amrywiaeth o dechnolegau a all eich helpu yn eich bywyd bob dydd, ac roedd y digwyddiad hwn yn edrych ar y sefydliadau ysbrydoledig sy’n helpu gyda hynny.  

 

Croesawu arloesedd: straeon gwych gan y sefydliadau arloesol sy’n arddangos yn y digwyddiad  

HUG gan LAUGH – cyfaill meddal sy’n gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.  

Mae HUG, sy’n gysurwr meddal gyda choesau trwm, curiad calon ffug, a chwaraewr cerddoriaeth y gellir ei addasu, wedi ailddiffinio’r cysyniad o gwmnïaeth. Cafodd HUG ei ddylunio’n wreiddiol ar gyfer un person â dementia a oedd yn ymateb yn llai, a chafodd effaith hynod, gan arwain at welliannau sylweddol o ran llesiant.  

Dywedodd Jac Fennell, y Rheolwr Gyfarwyddwr:

“Yn rhyfeddol, arweiniodd HUG at ansawdd bywyd gwell. Roedd yn meithrin cysylltiad dwfn ac roedd y ffordd roedd yr unigolyn yn rhyngweithio yn gwella, gan gynnwys canu gyda HUG. Roedd yn emosiynol i’w weld.”

Yn 2021, cafodd y prosiect ei ehangu pan ddyfarnwyd cyllid Cyflymydd Cymdeithas Alzheimer i HUG, a wnaeth olygu fod y cynnyrch yn gallu bod ar gael yn eang i unrhyw un ei brynu. Mae’r cynnyrch wedi parhau i ehangu, gan gael ei brynu gan ddefnyddwyr a sefydliadau’n uniongyrchol o’r wefan, a hefyd yn cael ei werthu gan fanwerthwyr mawr fel Amazon ac Argos. Mae partneriaeth Cyflymydd Cymdeithas Alzheimer yn golygu bod pob HUG sy’n cael ei werthu’n cyfrannu at ymchwil dementia yn y dyfodol ac arloesedd dylunio. Mae HUG bellach yn cael ei ddefnyddio mewn gofal cymdeithasol ac ysbytai’r GIG, ac yn y cartref gan unigolion.  

Mae HUG wedi cael ei werthuso mewn astudiaeth ansoddol o’r GIG a chartrefi gofal a chanfuwyd ei fod yn gwella llesiant mewn 87% o bobl, yn lleihau gorbryder ac aflonyddwch, yn gwella cysylltiad, yn lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd, ac yn newid ymddygiadau gofidus.  

 

Pobroll®️ – gwneud ymolchi yn y gwely yn hawdd!

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Pat O’Brien sylw i fater sensitif ymolchi, gan droi profiad a allai beri gofid yn brofiad o urddas a chysur. 

Fel ateb i’r broblem gynyddol sydd wedi cael ei dwysau gan y pandemig COVID-19, mae Pobroll®️ yn ateb i gleifion a gofalwyr. Mae ar gyfer unrhyw un sydd angen cymorth i ymolchi yn y gwely. Mae’n cysuro ac yn tawelu meddwl y person sy’n cael ei ymolchi, gan gadw’r unigolyn yn gynnes, y gwely’n sych, a’i orchuddio’n barchus wrth ymolchi ar y gwely. Hwyluso’r broses o ymolchi’r corff yn llawn, heb arferion gofidus ar adeg bath. Drwy ddarparu ymolchi sych, clyd a di-straen yn y gwely, mae Pobroll® wedi dod yn esiampl o obaith i deuluoedd sy’n delio â dementia.  

Mae Pobroll® yn ei bedwaredd flwyddyn yn rhedeg gyda chefnogaeth Cymdeithas Alzheimer’s, ac mae ei llwyddiannau’n galonogol. Dywedodd Pat O’Brien, Cyfarwyddwr:  

“Mae Pobroll® yn tawelu’r cleifion ac yn rhoi urddas a pharch yn ystod y broses o ymolchi yn y gwely. Rydym ni wedi gweld bod yn well gan deuluoedd gadw mam neu dad gartref, yn hytrach na’u rhoi mewn cartref gofal.  

“Rydym ni wedi clywed am lwyddiant yn ddiweddar gan ddwy ferch a fyddai’n helpu eu mam oedrannus. Cyn cael Pobroll, roedd y profiad o ymolchi yn eithaf trawmatig. Nawr bod ganddyn nhw gysylltiad agosach, mae profiad mam wedi gwella, gan ei chadw’n gysurus yn ei chartref, a rhoi llai o straen ar adnoddau gofal iechyd”. 

YourMeds – symleiddio’r broses o reoli meddyginiaethau   

Mae YourMeds yn brosiect cydweithredol rhwng Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ei nod yw symleiddio amserlenni meddyginiaethau, gan alluogi cleifion i `gymryd eu meddyginiaeth ar amser. 

Mae’n flwch tabledi digidol gyda phodiau wedi’u llenwi ymlaen llaw gan fferyllwyr cymunedol a’u danfon yn uniongyrchol i’r defnyddiwr, gan ddarparu cymhorthion sain a gweledol i atgoffa’r defnyddiwr pryd i gymryd ei feddyginiaeth. Mae’r system yn rhybuddio bob 10 munud am awr, neu hyd nes y byddwch chi’n cymryd eich meddyginiaeth. Gallwch chi ddewis hyd at bump o bobl i’ch cefnogi i gymryd eich meddyginiaeth ar amser, ac mae porth ar-lein wedi’i gysylltu â’r ddyfais a fydd yn rhoi gwybod i’ch cylch gofal.  

Wrth siarad am brosiect YourMeds a chefnogaeth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn ein stori newyddion Adroddiad Blynyddol ddiweddar, dywedodd Thomas Sauter, Fferyllydd Arweiniol Clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: 

“Mae wedi bod yn wych gweithio gyda Louise a gweddill tîm Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar ein gwerthusiad rheoli meddyginiaethau digidol. Maen nhw wedi darparu toreth o wybodaeth sydd wedi ein galluogi i fanteisio i’r eithaf ar ein syniad cychwynnol. Mae’r gefnogaeth a’r cyfleoedd parhaus a ddarparwyd wedi sicrhau ein bod yn gallu darparu’r gwasanaeth roeddem ni ei eisiau ar gyfer yr unigolion yn ein cymuned.” 

Konnekt Videophone gan Just So Care  

Cafodd y Ffôn Fideo Konnekt ei ddylunio’n benodol ar gyfer pobl hŷn, gan wella ansawdd bywyd y rheini sy’n byw gyda dementia, a’u hanwyliaid drwy dechnoleg gynorthwyol (sy’n cyfieithu i 52 o ieithoedd). Mae’n galluogi defnyddwyr i siarad wyneb yn wyneb â theulu, ffrindiau a gofalwyr, gan ryngweithio’n rheolaidd a lleihau teimladau o unigrwydd a phryder.  

Dywedodd Dan Barron, Cyfarwyddwr:  

“Mae Konnekt wedi darparu eiliadau annisgwyl o lawenydd. Ydy, mae’n arwain at fanteision o ran pryder gwahanu a llawer o rai eraill, ond rydym ni hefyd wedi gweld rhyngweithiadau nad oedden ni’n eu disgwyl. Roedd un ferch yn ei ddefnyddio gyda’i mam i goginio gyda’i gilydd. Mae’n dod â phrofiadau maen nhw’n eu mwynhau gyda’i gilydd yn ôl, yn lleihau’r teimlad hwnnw o unigrwydd, ac yn eu cadw’n rhan o fywyd teuluol.” 

Roedd cymaint o sefydliadau arloesol anhygoel eraill fel Cwmpas, My Improvement Network - RITA, a CPR Global Technology a oedd yn paratoi’r ffordd ar gyfer dyfeisiau digidol sy’n cynnig cymorth, rhyddid ac annibyniaeth i gleifion â dementia.  

 

Dyfodol gofal dementia 

Nid datblygiadau technolegol yn unig yw’r datblygiadau arloesol hyn, maent yn enghreifftiau o obaith, sy’n goleuo bywydau’r rheini y mae dementia yn effeithio arnynt. Wrth i’r dyfeisiadau rhyfeddol hyn barhau i esblygu, a lle mae tosturi ac arloesedd yn cyd-fynd â’i gilydd, mae dyfodol gofal dementia yn fwy disglair.  

Roedd Pat O’Brien yn rhyfeddu at yr egni a’r brwdfrydedd yn yr ystafell, gyda theimladau o obaith ar gyfer y dyfodol.  

Dywedodd Pat O’Brien:  

“Mae dyfodol gofal dementia yn edrych fel dull tosturiol, cysylltiedig sydd wedi’i rymuso gan dechnoleg.  

“Mae digwyddiadau codi ymwybyddiaeth fel hyn yn dangos sut gall rhoddwyr gofal ac arloeswyr ddod at ei gilydd i gefnogi canlyniadau gwell a gwella ansawdd bywyd pobl sy’n byw gyda dementia.” 

Gall Dan Barron, Cyfarwyddwr Just So Care, weld tri datblygiad ar gyfer dyfodol gofal dementia. Dywedodd Dan:  

“Bydd mwy o gynhwysiant yn y gymuned. Bydd llai o ddibyniaeth ar welyau ysbyty, mwy o ofal gartref, a bydd y gofal hwnnw'n cael ei gynorthwyo'n fawr gan dechnoleg, a gobeithio y bydd datblygiadau’r diwydiant fferyllol i arafu dyfodiad dementia, yn dod ar gael yn y DU." 

Dywedodd Jac Fennell, Rheolwr Gyfarwyddwr HUG gan LAUGH:  

“Mae dyfodol gofal dementia yn edrych fel dull tosturiol, cysylltiedig sydd wedi’i rymuso gan dechnoleg.  

“Mae digwyddiadau codi ymwybyddiaeth fel hyn yn dangos sut gall rhoddwyr gofal ac arloeswyr ddod at ei gilydd i gefnogi canlyniadau gwell a gwella ansawdd bywyd pobl sy’n byw gyda dementia.” 

Mae gan HUG gan LAUGH hefyd ddigwyddiad gwahoddiad yn unig ar y gweill yn y Senedd ym mis Rhagfyr. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod i’r digwyddiad, cysylltwch â info@hug.world i gael rhagor o wybodaeth.  

Wedi colli ein digwyddiad arddangos? Peidiwch â phoeni! Os ydych chi’n sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol sy’n awyddus i sbarduno arloesedd yn y rheng flaen, rydym ni yma i helpu. Cysylltwch â ni i ddarganfod sut gallwn ni gydweithio a chael effaith sylweddol gyda’n gilydd. Cysylltwch â ni yma

 

Mae gan Andrew gefndir mewn imiwnoleg yn y byd academaidd a diwydiant, gyda phrofiad helaeth mewn storio, dadansoddi a biobrosesu celloedd a meinwe i’w ddefnyddio mewn gweithgynhyrchu therapi celloedd uwch. Yn ei rôl bresennol fel arweinydd prosiect yn y rhaglen meddygaeth fanwl, mae’n canolbwyntio ar ddiagnosteg foleciwlaidd ac yn benodol ar ddatblygu gwasanaethau profion pwynt gofal yng Nghymru.