O dracio patrymau cysgu i gyfrif camau a gweithgarwch corfforol, mae pobl ledled Cymru wedi bod yn defnyddio technoleg ar eu ffonau clyfar i fonitro iechyd a lles ers cryn amser. Fodd bynnag, mae hi hefyd yn bosibl i offer digidol o’r fath helpu’r genedl i fesur mwy o fetrigau clinigol.
O dracio patrymau cysgu i gyfrif camau a gweithgarwch corfforol, mae pobl ledled Cymru wedi bod yn defnyddio technoleg ar eu ffonau clyfar i fonitro iechyd a lles ers cryn amser. Fodd bynnag, mae hi hefyd yn bosibl i offer digidol o’r fath helpu’r genedl i fesur mwy o fetrigau clinigol.
A dweud y gwir, mae ein gwasanaethau iechyd a chymdeithasol wedi dechrau gwerthuso effaith a manteision dull gweithredu o’r fath. Cafodd y broses o fabwysiadu technoleg ei chyflymu gan yr ymateb cychwynnol i bandemig Covid-19, lle’r oedd ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn addasu ac yn digideiddio gwasanaethau’n gyflym. Cafodd offer fel ymgyngoriadau fideo a brysbennu digidol eu defnyddio i sicrhau bod anghenion cleifion yn dal i gael eu diwallu gan gydymffurfio â’r rheolau cadw pellter cymdeithasol.
Roedd y DSF wedi cefnogi’r ymateb hwn ac mae’n parhau i wneud hynny. Mae cynllun gwerth £150,000 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei gydlynu gan EIDC, yn canolbwyntio ar ddefnyddio a phrofi technolegau digidol yn gyflym er mwyn edrych ar ffyrdd eraill o gefnogi anghenion ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol ar ôl COVID-19.
Mae hyn yn cynnwys cynllun peilot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan ddefnyddio offer digidol a ddatblygwyd gan ein sefydliad, Huma. Rydym wedi creu technoleg monitro cleifion o bell sy’n caniatáu i gleifion ac ymarferwyr reoli cyflyrau hirdymor a chronig o bell.
Rydym eisoes wedi defnyddio’r dechnoleg hon fel ateb i COVID-19 yn yr Almaen, ac mae 15 o sefydliadau’r GIG yn ei defnyddio i reoli cyflyrau eraill. Roedd y cynllun peilot hwn yn gyfle delfrydol i werthuso ei heffeithiolrwydd o ran helpu cleifion ac ymarferwyr i reoli cyflyrau methiant y galon – sydd fel arfer yn galw am arosiadau estynedig ac ymweliadau rheolaidd ag ysbytai.
Rheoli a monitro methiant y galon yn rhagweithiol
Roeddem wedi dechrau’r cynllun peilot 12 wythnos ddydd Llun 12fed Gorffennaf ar draws y ddau Fwrdd Iechyd, gyda’r amcan o bennu a yw RPM yn gallu helpu i wella profiad, gofal, canlyniadau ac effeithlonrwydd i’r rheini sy’n profi methiant.
Mae’r cynllun peilot wedi gweld carfan o gleifion yn monitro eu cyflwr gan ddefnyddio Ap Cleifion ar ffôn clyfar a chyfarpar fel ocsifesurydd pwls a llawes pwysedd gwaed. Mae modd llwytho data i fyny sy’n cynnwys symptomau, cyfradd curiad y galon, pwysedd gwaed, dirlawnder ocsigen a phwysau, a hynny o gartref y claf.
Mae’r clinigwyr wedyn yn gallu gweld yr wybodaeth hon mewn amser real gan ddefnyddio porwr gwe. Yma, maen nhw’n gallu defnyddio’r data i wneud penderfyniadau am gleifion, canfod arwyddion cynnar o ddirywiad mewn iechyd, a chysylltu â chleifion drwy ddefnyddio offer telefeddygaeth a fideo-gynadledda mewnol.
Mae hyn yn golygu nad oes angen i gleifion deithio i’r ysbyty neu i leoliad gofal sylfaenol, rhywbeth y byddai’n well gan lawer ei osgoi gan ei fod yn haws ac yn arbed costau teithio. Mae hefyd yn helpu i leihau’r capasiti ac yn rhoi golwg dda i glinigwyr ar bwy maent yn ei drin.
Y stori hyd yma
Mae’r ddau Fwrdd Iechyd eisoes yn gweld canlyniadau cadarnhaol iawn. I gleifion, mae’n golygu y gellir eu rhyddhau o’r ysbyty’n gynt oherwydd bod modd eu monitro’n ddiogel o gartref. Mae eu hadborth wedi bod yn gadarnhaol, gan fod pawb a oedd wedi cofrestru wedi canfod bod y meddalwedd yn ddefnyddiol ar gyfer gwella cyfathrebu â chlinigwyr a rheoli cyflwr eu calon. Dywedodd cleifion fod yr ap yn hawdd ei ddefnyddio a’i fod yn eu helpu i reoli eu hiechyd.
Mae’r prosiect hefyd wedi cefnogi ymdrechion timau clinigol – gan fapio cynnydd a llwybrau cleifion. Mae hyn yn cynnwys adnabod cleifion sydd angen profion ychwanegol, cymorth neu driniaeth gynharach cyn iddynt fynd i apwyntiadau sydd wedi’u trefnu.
Edrych tua’r dyfodol
Mae cynlluniau peilot fel hyn yn gyfle unigryw i ddeall yr arferion gorau a’r hyn y gellir ei ddysgu mewn prosiectau gofal iechyd digidol eraill wrth symud ymlaen. Un o’r gwersi a ddysgwyd o’r cynllun peilot hwn yw pwysigrwydd cyfathrebu mewnol da. Roedd cyfarfod prosiect wythnosol wedi helpu i sbarduno cynnydd ac roedd ymgysylltu â chydweithwyr clinigol wedi creu fforwm o gefnogaeth ac adborth.
Dangosodd hefyd y rôl hollbwysig y mae’r tîm clinigol wedi’i chael. Mae eu hymateb brwdfrydig wedi helpu i yrru’r cynllun peilot yn ei flaen, gan osod y sylfaen ar gyfer trawsnewid posibl.
Roedd y cynllun peilot hefyd yn galluogi tîm y prosiect i nodi’r heriau allweddol y gallent eu hwynebu os ydynt am barhau â’r prosiect neu ei ehangu. Un ffordd o’r fath yw symleiddio’r broses o lywodraethu gwybodaeth, a fyddai’n cyflymu’r broses drwy ei gwneud yn haws i Fyrddau Iechyd a sefydliadau’r GIG fabwysiadu’r dechnoleg hon.
Wrth i’r prosiect ddirwyn i ben, gallwn weld bod y bartneriaeth rhwng Huma, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eisoes wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i ganlyniadau pwysig i gleifion, gan gefnogi ymdrechion clinigol a llifoedd gwaith ar yr un pryd.
Rydym wrth ein bodd ag ymdrechion y Byrddau Iechyd a’r holl gleifion i wneud i’r prosiect hwn weithio ac rydym yn awyddus i archwilio’r cyfleoedd ar gyfer parhau â’r prosiect hwn.
I ddysgu rhagor am y prosiectau sydd wedi cael eu cydlynu neu eu cefnogi gan EIDC, ewch i dudalen y prosiect.