Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Daeth menywod sy’n arweinwyr ym mhob rhan o’r ecosystem arloesi ym maes iechyd yng Nghymru at ei gilydd yn ein sesiwn yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn 2026 i drin a thrafod sut gall arloesi helpu pobl i fyw bywydau iachach, cefnogi GIG mwy cynaliadwy ac, yn hollbwysig, troi syniadau newydd yn effaith yn y byd go iawn. 

The Eisteddfod sign with a blue sky behind

Cynhaliwyd y panel yn stondin Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac roedd yn cynnwys arbenigeddau o’r byd academaidd, gofal iechyd, gwyddorau bywyd ac arloesi. Cafodd y digwyddiad ei gadeirio gan Olygydd Gwleidyddol BBC Cymru, Catrin Haf Jones, ac roedd y panel yn cynnwys Dr Elin Haf Davies, Entrepreneur Technoleg Iechyd, Dr Siân Morgan, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yr Athro Ffion Williams, Pennaeth Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, a Dr Catrin Middleton, Pennaeth Cyflawni Rhaglenni, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. 

Bu’r panel yn trafod rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Atal, diagnosis cynnar a chanlyniadau gwell

Un farn gyffredin oedd bod angen canolbwyntio mwy ar atal, gwneud diagnosis yn gynharach a chadw pobl yn iachach yn hirach. Siaradodd Dr Siân Morgan am bwysigrwydd rhagweld salwch cyn iddo ddatblygu, a soniodd Dr Elin Haf Davies am sut mae anghydraddoldebau ehangach yn gallu siapio canlyniadau iechyd hirdymor. 

Pwysleisiodd Elin fod llawer o heriau iechyd yn dechrau yn ystod plentyndod cynnar, gyda thlodi ym mhum mlynedd cyntaf bywyd yn aml yn gysylltiedig â chanlyniadau iechyd gwaeth yn nes ymlaen mewn bywyd. Soniodd am bwysigrwydd ymyriadau cynnar, gan gyfeirio at fentrau fel Dechrau'n Deg, sy’n cefnogi teuluoedd a chymunedau sy’n wynebu’r heriau hyn. 

Bu’r panel hefyd yn trafod sut mae arloesi eisoes yn helpu i wella canlyniadau i gleifion. Soniodd Siân am QuicDNA fel enghraifft o’r cynnydd hwn, gan egluro sut mae’r prawf gwaed biopsi hylif yn helpu i roi diagnosis yn gyflymach a thriniaethau mwy personol ledled Cymru, gan helpu i wella ansawdd bywyd cleifion. 

Gwreiddio arloesi yn anghenion go iawn cleifion

Un pwnc amlwg a gododd drwy gydol y drafodaeth oedd bod yn rhaid i arloesi ddechrau gyda phobl. Pwysleisiodd y panelwyr y dylai arloesedd gael ei sbarduno gan anghenion a phrofiadau cleifion.  Pwysleisiodd Dr Catrin Middleton bwysigrwydd gwrando ar bobl sydd â phrofiad bywyd a deall realiti defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. 

“Dylid cyfleu bod cleifion yn arbenigwyr yn eu maes eu hunain. Mae angen i ni gydnabod bod claf yn arbenigwr o ran sut mae’n teimlo i fod â’u cyflwr nhw, a sut beth yw byw gyda’r cyflwr neu’r salwch hwnnw.”

Roedd y sgwrs hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod arloesi’n gweithio o amgylch bywydau pobl. Roedd Dr Elin Haf Davies yn herio’r dulliau traddodiadol o gynnal treialon clinigol, gan gwestiynu pam bod yn rhaid i gleifion weithiau deithio i apwyntiadau ysbyty pan fyddai modd cyflawni elfennau o ofal ac ymchwil yn nes gartref. Cytunodd y panel y dylai arloesi fod yn chwalu rhwystrau yn hytrach na’u creu, gan ei gwneud hi’n haws i bobl gael gafael ar gymorth, triniaethau a chyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil. 

Soniodd Dr Siân Morgan am bŵer llais y claf gan drafod ymdrechion ymgyrchu a chodi arian Craig Maxwell i helpu i wella diagnosis canser yng Nghymru. Cafodd Craig ddiagnosis canser yr ysgyfaint cam 4, mae wedi codi mwy na £1.6 miliwn drwy Gronfa Genomeg Maxwell ac mae’n eiriolwr cryf dros ddiagnosis cyflymach a thriniaethau personol. Mae ei hanes yn ein hatgoffa bod pobl a theuluoedd go iawn y tu ôl i bob arloesedd, a bod eu profiadau nhw yn gallu helpu i arwain newid ystyrlon. Dywedodd Siân er bod datblygiadau technolegol yn bwysig, taw eu heffaith ar fywydau cleifion yw’r peth pwysicaf. 

Gwneud arloesi yn hygyrch ar draws Cymru

Roedd y panelwyr yn cytuno ei bod yn rhaid i arloesedd fod yn hygyrch i bobl ar draws Cymru, ni waeth ble maen nhw’n byw. Roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar leihau rhwystrau rhag cymryd rhan mewn treialon clinigol, triniaethau datblygedig a thechnolegau newydd, yn enwedig i bobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig heb lawer o wasanaethau. 

Soniodd Dr Catrin Middleton am y galw cynyddol am gefnogaeth canser, poblogaeth sy’n heneiddio a’r angen am ddiagnosis cynharach, gan sôn am y rôl gall arloesi ei chwarae drwy wella diagnosis a thriniaethau ledled Cymru. 

O gynlluniau peilot i fabwysiadu cenedlaethol

Er bod y siaradwyr yn cydnabod pwysigrwydd y gweithgarwch arloesi sydd eisoes ar waith ledled Cymru, roedd barn gyffredin bod angen gwneud mwy i roi’r dulliau llwyddiannus ar waith yn genedlaethol. 

Siaradodd y panelwyr am her symud y tu hwnt i brosiectau peilot unigol a sicrhau bod arloesi llwyddiannus yn rhan o arferion rheolaidd ar draws gwasanaethau iechyd a gofal. Soniodd Dr Catrin Middleton am her gyfarwydd: Mae llawer o weithgarwch arloesi ar waith yng Nghymru ac mae yma nifer o gynlluniau peilot llwyddiannus ond mae angen llwybr mwy cyson er mwyn i’r arloesi llwyddiannus allu ehangu a chael ei wreiddio ar draws y GIG yng Nghymru. Soniodd Catrin bod angen symud y tu hwnt i gynlluniau peilot llwyddiannus, rhannu’r hyn a ddysgwyd yn fwy effeithiol ledled y wlad a dysgu o systemau arloesi mewn mannau eraill i gyflymu’r broses mabwysiadu. 

Dywedodd yr Athro Ffion Williams “Ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn ni’n gweithio gyda byrddau iechyd a chwmnïau arloesi ac rydyn ni’n barod i siarad a gwrando, rydyn ni’n rhan o’r gymuned. Beth allen ni ei wneud yn well ydy trosglwyddo hyn ar draws Cymru gyfan. Rydyn ni’n arloesi’n dda, ac mae ymdrech i wneud pethau’n lleol, ond mae angen i ni ledaenu’r arloesi hyn yn well ar draws Cymru gyfan.”

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf

Wrth edrych tua’r dyfodol, trodd y drafodaeth at weithlu’r dyfodol a rôl addysg, creadigrwydd a sgiliau wrth gefnogi arloesi ym maes iechyd. 

Pwysleisiodd y panelwyr bwysigrwydd annog pobl ifanc i archwilio cyfleoedd ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, gofal iechyd ac ymchwil, gan sicrhau eu bod yn deall ehangder y gyrfaoedd sydd ar gael iddynt. Roedd cydnabyddiaeth y gallai swyddi’r dyfodol edrych yn wahanol iawn i swyddi heddiw, gan wneud hyblygrwydd, chwilfrydedd a dysgu gydol oes yn gynyddol bwysig. 

Soniodd y siaradwyr am yr angen i gadw talent yng Nghymru a chreu cyfleoedd i genedlaethau’r dyfodol gyfrannu at sector gwyddorau bywyd cynyddol y wlad. Dywedodd Dr Elin Haf Davies: 

“Efallai na fydd swyddi sy’n bodoli heddiw yn bodoli pan fydd pobl ifanc heddiw yn chwilio am waith. Mae’r byd yn symud yn gynt o lawer na’r hyn gall addysg baratoi ar ei gyfer. Mae angen i sgiliau ddatblygu ac esblygu’n gyson.” 

Edrych i’r dyfodol

Wrth i’r trafodaethau ddod i ben, bu’r panelwyr yn myfyrio ar yr hyn sydd angen ei newid i wireddu potensial llawn arloesi ym maes iechyd yng Nghymru. Roedd barn gyffredin bod angen i arloesi fod yn haws ei fabwysiadu, yn fwy hygyrch i gymunedau ac wedi’i wreiddio fwyfwy mewn gofal bob dydd.

Roedd y drafodaeth yn sôn am bwysigrwydd rhoi cleifion wrth galon arloesi, gan ganolbwyntio ar atal a diagnosis cynharach, ehangu mynediad at ddulliau newydd ac, yn hollbwysig, sicrhau bod arloesi llwyddiannus yn gallu symud y tu hwnt i gynlluniau peilot unigol a chael ei fabwysiadu ar raddfa fawr ledled Cymru.

Gan ddod â safbwyntiau o feysydd iechyd, y byd academaidd ac arloesi at ei gilydd, dangosodd y sesiwn gryfder yr hyn sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru a’r cyfleoedd i fynd ymhellach – drwy ragor o gydweithio, uchelgais a ffocws ar y cyd ar drosi arloesi i fod yn ganlyniadau gwell i bobl ac i gymunedau ledled Cymru. 

Os hoffech chi wybod rhagor am y sesiwn hwn neu os hoffech chi gymryd rhan yn ein trafodaeth panel nesaf, cysylltwch â ni yma.