Digwyddiad Traws Sector Academi'r Gwyddorau Meddygol 11/7/24 - Siaradwyr 

Julie Hepburn 

Julie wearing glasses and a plaid jacket

 

 

 

 

 

 

 Yn dilyn triniaeth lwyddiannus ar gyfer canser y coluddyn 10 mlynedd yn ôl, rwyf bellach yn treulio llawer o'm hamser ar gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd, sy'n ymwneud yn bennaf â chanser. Mae fy nyletswyddau’n cynnwys rhoi cyngor strategol i grwpiau llywodraethu, eistedd ar Grwpiau rheoli treialon, ysgrifennu dogfennau sy’n ymwneud â chleifion, helpu i ddosbarthu canlyniadau ac adolygu cynigion ymchwil ar gyfer paneli cyllido. Yn ogystal, rwyf wedi bod yn aelod o sawl grŵp sy’n llunio polisïau a strategaethau ar gyfer gwella Diagnosis Cynnar o Ganser. Ar hyn o bryd, fi yw’r Partner Ymchwil Arweiniol Lleyg ar gyfer Canolfan Ymchwil Canser Cymru a Chanolfan Meddygaeth Canser Arbrofol Caerdydd, ac rwyf hefyd yn aelod o Bwyllgor Llywio Canser Uned Treialon Clinigol Caerdydd a Bwrdd Therapïau Datblygedig Cymru.   

Jason Lintern, MSc - Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Arloesi a Thrawsnewid)  

Jason talking to colleague at event

 

 

 

 

 

 

Fel Arweinydd Arloesi ym maes Iechyd yn Llywodraeth Cymru sydd â dros 37 mlynedd o brofiad o drosi polisi’r llywodraeth yn ddarpariaeth weithredol yng Nghymru, mae Jason yn arweinydd strategol cydnabyddedig sydd â set sgiliau eang a phrofiad helaeth o gyflawni ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, lle mae wedi chwarae rhan mewn trawsnewid gwasanaethau a darparu ffyrdd newydd o weithio. Ar ôl arwain rhaglen polisi a chyflawni gweithredol Llywodraeth Cymru ar gyfer arloesi ym maes iechyd a gofal a gwyddorau bywyd, Jason oedd arweinydd dylunio rhaglen Academïau Dysgu Dwys Cymru Gyfan a sefydlwyd mewn partneriaeth â Phrifysgolion Cymru yn ystod pandemig Covid-19, y rhaglen flaenllaw hon a’i sefydliadau yw’r cyntaf o’u math yn fyd-eang i gynnig cymwysterau pwrpasol sy’n canolbwyntio ar arloesi a thrawsnewid sy’n seiliedig ar werth ar gyfer arweinwyr systemau uwch a’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, sy’n gweithio ar draws llywodraeth, diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol.  

Mae Jason yn frwd dros bobl a dod â chymunedau ymarfer at ei gilydd sy’n gallu cydweithio a gweithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ym maes iechyd a gofal. Ar hyn o bryd, mae’n arwain y ffocws arloesi ar sut gall Cymru gyflymu gwelliannau mewn cyfraddau goroesi canser fel bod canlyniadau i gleifion yn well.  Blaenoriaeth bwysig y gweithgaredd hwn yw edrych ar sut y gallwn fanteisio i’r eithaf ar ddull gweithredu sy’n cynnwys pob partner.  

Sian Morgan FRCPath - Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Labordy, Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan  

Sian Morgan

 

 

 

 

 

 

Mae Sian yn Wyddonydd Clinigol Ymgynghorol ac yn Gyfarwyddwr Labordy Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, ac mae’n gyfrifol am y gwasanaeth genomig diagnostig sy’n ehangu’n gyflym. Gyda 33 mlynedd o brofiad, mae Sian wedi goruchwylio ac arwain cysylltiadau a chynghreiriau strategol, gan arwain at lwybrau diagnostig gwell ar gyfer Clefydau Prin, Canser a Ffarmacogenomeg.  

Mae Sian yn gyd-arweinydd y prosiect QuicDNA sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae’r prosiect hwn, a gychwynnwyd ddechrau 2023, yn canolbwyntio ar gynnwys profion ctDNA anymwthiol oddi mewn i lwybr diagnostig canser yr ysgyfaint. Drwy ddadansoddi sampl gwaed syml, mae biopsïau hylif yn cynnig dewis llai ymwthiol a chyflymach na phrofion genomig biopsïau meinwe traddodiadol. Mae’r dull hwn yn cyflymu penderfyniadau ynghylch diagnosis a thriniaeth, gyda’r nod o wella canlyniadau cleifion a chyfraddau goroesi.  

Dr Magda Meissner – Meddyg Ymgynghorol mewn Oncoleg Feddygol 

Dr Magda in white lab coat

 

 

 

 

 

Mae Dr Magda Meissner yn Feddyg Ymgynghorol mewn Oncoleg Feddygol yng Nghanolfan Ganser Felindre, ac mae’n Uwch Ddarlithydd Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ogystal, mae hi'n gweithredu fel Arweinydd Biopsïau Hylif Clinigol yn Labordy Geneteg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS). Yn flaenorol, bu'n Gymrawd Treialon Clinigol Ymchwil Canser y DU yn y Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd a dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ymchwil Clinigol iddi gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru, wedi'i lleoli yn yr uned treialon clinigol cyfnod cynnar yng Nghanolfan Ganser Felindre. Mae Dr Meissner hefyd yn gyd-arweinydd Oncoleg Fanwl a Mecanistig Thema CReSt. 

Yn ystod ei hastudiaethau PhD yn canolbwyntio ar ddadansoddi ctDNA mewn cleifion canser y fron sy'n gwrthsefyll triniaeth, cymerodd Dr Meissner ran yn rhaglen Arweinwyr y Dyfodol mewn Ymchwil Canser Prifysgol Caerdydd, gan ei galluogi i gymryd rhan mewn cyrsiau cystadleuol dylunio treialon clinigol, yn cynnwys profion biofarcwyr. Ar hyn o bryd, gyda Sian Morgan mae hi’n cyd-arwain ar yr astudiaeth QuicDNA, prosiect arloesol sy’n ymchwilio i’r defnydd o fiopsi hylif anymwthiol (ctDNA) ar gyfer diagnosis a thriniaeth canser yr ysgyfaint. Cefnogir yr astudiaeth hon gan grantiau sylweddol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Cynllun Canser Moondance, cronfa Craig Maxwell, a sawl grant masnachol.  

Dr Elizabeth Sharkey, Tîm Archwilio Iechyd yr Ysgyfaint  

Elizabeth Sharkey

 

 

 

 

 

Mae Elizabeth yn Feddyg Arbenigol yn BIP Cwm Taf Morgannwg, ar ôl cwblhau ei Hyfforddiant Meddygaeth Fewnol ym mis Awst y llynedd, cyn mynd ymlaen i gwblhau Hyfforddiant Arbenigol mewn Meddygaeth Liniarol.   

Ar hyn o bryd, mae Elizabeth yn gweithio gyda thîm sydd wedi’i leoli rhwng BIP CTM a Rhwydwaith Canser Cymru, gyda chymorth cydweithwyr yn y diwydiant ac elusennau i dreialu Archwiliadau Iechyd yr Ysgyfaint. Gan weithio gyda meddygfeydd penodol yng Ngogledd Rhondda, bydd y rhaglen beilot yn ceisio cynnig sgan sgrinio’r ysgyfaint i tua 500 o gleifion. Os byddant yn addas, bydd cleifion yn cael eu gwahodd i gael sgan sgrinio ysgyfaint CT dos isel.   

Gabriel Lambert, Cyfarwyddwr Datblygu Masnachol a Chlinigol  

Gabriel with glasses smiling at camera

 

 

 

 

 

Mae Gabriel yn entrepreneur ac yn feddyg, gan gymhwyso o Brifysgol Caergrawnt yn 2016. Mae ganddo chwe blynedd o brofiad o weithio fel meddyg yn y GIG. Ei rôl bresennol yw Cyfarwyddwr Datblygu Masnachol a Chlinigol yn TidalSense. Mae hyn yn golygu ei fod yn rheoli cyfres gynyddol o astudiaethau clinigol y cwmni, yn arwain y gwerthusiad clinigol o ddyfeisiau meddygol TidalSense, ac yn datblygu partneriaethau newydd gyda'r GIG a rhanddeiliaid eraill.  

Annie Dahl: Rheolwr Arloesi – Partneriaethau, Gofal Canser Macmillan  

Annie yw’r Rheolwr Arloesi ar gyfer Cymorth Canser Macmillan, sy’n canolbwyntio ar bartneriaethau a buddsoddi mewn effaith. Mae Annie yn defnyddio ei phrofiad o yrfa yn y trydydd sector i ddod ag arbenigedd mewn technoleg a gofal iechyd i sicrhau bod yr elusen yn gweithio gyda rhanddeiliaid perthnasol ar draws cwmnïau, cyrff statudol ac elusennau.  

Adam Bryant, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd – CanSense  

Adam Bryant in CanSense building

 

 

 

 

 

 

Fel Prif Swyddog Gweithredol CanSense, mae Adam wedi ymrwymo i drawsnewid bywydau drwy ganfod canser yn gynnar. Gyda phrofiad diweddar a phersonol o’i ddiagnosis canser ei hun, mae Adam mewn sefyllfa unigryw i ddeall anghenion unigolion y tu hwnt i’w rolau fel cleifion.  

Gan symud o fancio buddsoddi chwe blynedd yn ôl, mae Adam wedi ymgolli yn y diwydiant technoleg iechyd, gan gael y ddealltwriaeth ofynnol o’r dirwedd, gan gynnwys y llwybr rheoleiddio—sy’n agwedd hanfodol ar y busnes.  Gyda phrofiad fel Prif Ymchwilydd a PhD mewn Ffiseg Ddamcaniaethol, mae wedi cyflwyno mewn amrywiol gyfarfodydd Seneddol APPG. 

Mae Adam wedi datblygu rhwydwaith helaeth ar draws y diwydiant gofal iechyd, gan gynnwys prifysgolion, AHSN, elusennau canser, darparwyr gofal iechyd, buddsoddwyr mewn technoleg iechyd, yn ogystal â phartneriaid corfforaethol mawr yn y diwydiant gofal iechyd.