Skip to main content
  • English
  • Facebook
  • Twitter
  • Linked In
  • Youtube
Life Sciences Hub Wales home page
  • Facebook
  • Twitter
  • Linked In
  • Youtube
  • Newyddion
  • Astudiaethau achos
  • Blog
  • Podlediad
  • Digwyddiadau
  • Amdanom ni
    • Croeso
    • Ein Effaith
    • Ein Pobl
    • Ein Blaenoriaethau
    • Ein Cylchlythyr
    • Tystebau
    • Ymuno â'n tîm
  • Ein Cefnogaeth
    • Datblygu Achos Busnes
    • Cefnogaeth Cyllido
    • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • Diwydiant
    • Rhaglenni
    • Gwybodaeth Sector
    • Rheoli Prosiectau
  • Prosiectau
  • Adnoddau
    • Cyflawni Arloesedd
    • Rhwydweithiau
    • Cylchlythyrau o'r Sector
  • Ymholiadau

Tystebau

Pwy ydym ni 

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gorff hyd braich o Lywodraeth Cymru. Rydym yn rhoi hwb i arloesi a chydweithio rhwng diwydiant, iechyd, gofal cymdeithasol ac academia - gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl, teuluoedd a busnesau ym mhob cwr o'r wlad. 

Ein gweledigaeth yw sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran arloesedd ym maes iechyd, gofal a lles.  

Chwarae

Beth mae ein cleientiaid yn ei ddweud?

Yr Athro Dean Harris, Cyfarwyddwr Clinigol i CanSense Ltd
“Mae CanSense yn gwmni dyfeisiau diagnostig in vitro a gafodd ei greu ym Mhrifysgol Abertawe yn 2018. Gyda dull gweithredu amgen newydd ar gyfer canfod canser yn gynnar yn cael ei ddatblygu, roeddem wedi gofyn am gymorth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i arwain ein llwybr at y farchnad a’n cyfeirio at ba help oedd ar gael i BBaCh technoleg feddygol sydd yn ei gamau cynnar.

Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gallu darparu gwasanaeth ysgrifennu grantiau arbenigol a siapiodd ein dyfarniad datblygu cynnyrch arloesi gwerth £1.2 miliwn ar gyfer datblygu cynnyrch arloesi yn 2021. Daeth awdur y cais â gwybodaeth a hanes llwyddiannus o gasglu grantiau i gyflawni’r cais buddugol (gan weithio drwy'r nos ar ddiwrnod y dyddiad cau!).

Ers cysylltu â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae nhw wedi gweithio’n ddiflino i’n cysylltu â’r gymuned technoleg feddygol ehangach, gan helpu i gyflogi cwmnïau allweddol, trefnu cyfarfodydd buddsoddwyr, trefnu cyfleoedd partneriaeth gyda chwmnïau wedi’u halinio, arddangos ein gwaith yn Expo Dubai eleni a’n helpu i ennill gwobrau blaenllaw yn y diwydiant a chynyddu ein sylw yn y cyfryngau. Allwn ni ddim diolch digon i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru am eu cymorth a’u gofalu parhaus wrth i CanSense ddatblygu ei uchelgeisiau byd-eang.”
Mike Yang, Arweinydd Ardal Fasnachol i CMR Surgical
"Mae CMR Surgical (CMR) wedi bod yn gweithio gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar Raglen Roboteg Cymru Gyfan ers i CMR gael ei hysbysu fel y cynigydd buddugol ar gyfer tendr y partneriaethau clinigol. Mae’r rhaglen hon yn bartneriaeth glinigol unigryw ar gyfer llawdriniaeth robotig gyda GIG Cymru i wella canlyniadau llawfeddygol a thrawsnewid y profiad o lawdriniaeth i filoedd o gleifion yng Nghymru.

Mae partneriaeth CMR â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi bod yn rhagorol. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cynnig gwasanaethau ac ymgynghoriadau o ansawdd uchel i helpu i adeiladu achosion busnes sy’n sbarduno arloesedd yng Nghymru. O’r dechrau, maent wedi rhannu ein huchelgais a’n gweledigaeth ar gyfer y rhaglen bwysig hon ac wedi gweithio’n agos gyda ni drwy bob cam i sicrhau y bydd buddsoddiad yn arloesedd CMR yn sicrhau llwyddiant. Mae’r CMR yn fodlon iawn â’r gwasanaeth, y strategaethau a’r ddealltwriaeth a ddarparwyd ganddynt, yn ogystal â’u hymrwymiad i’r CMR fel partner tymor hir."
Anil Kant, Prif Swyddog Gweithredol i Hardshell
“Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi helpu i ddatblygu ein darpariaeth masg wyneb yn ystod y pandemig ac wedi ein helpu ni i ddod â’r cynnyrch hynny i’r farchnad. Fe wnaethon nhw ein cysylltu ni â sefydliadau a wnaeth ein helpu ni i weithio drwy’r fframweithiau rheoleiddio a’n cyflwyno ni i bartneriaid profi allweddol.

Fel busnes, rydym wedi elwa’n uniongyrchol o’r cymorth parhaus a ddarperir gan y tîm, sydd wedi cynnwys cymorth rhaglenni (Cyflymu drwy Brifysgol Abertawe), cyfathrebu, ymgysylltu â’r cyfryngau a datblygu cynulleidfaoedd ar gyfryngau cymdeithasol.

Yn hollbwysig, mae’r tîm yn parhau i’n cefnogi gyda’n mentrau newydd ac unrhyw rwystrau rydym yn eu hwynebu.”
Hayley Wheeler, Awdur, Hyfforddwr Grymuso Emosiynol a mentor busnes
“Roeddwn i’n ffodus o gael fy newis i gymryd rhan yn rhaglen Cyflymu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn 2020 a dydw i ddim wedi edrych yn ôl. Mae’r manteision yn bellgyrhaeddol, o werthuso enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad, i ddatblygu busnes a datblygiad personol, roedd yn ddi-stop wrth ddysgu, addasu a thyfu.

Mae Cyflymu yn gam gwych ar gyfer datblygu busnes, ac yn ffordd o brofi, gwerthuso a dadansoddi o wahanol safbwyntiau.”
Catherine Davies a Catrin Codd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cydlynu’r ymgysylltiad rhwng Healthy io a’r tîm Nyrsio Ardal yn Ysbyty Prifysgol Bae Abertawe, gan ddarparu cefnogaeth rheoli prosiect yn ystod y gwaith o ddarparu ein cynllun peilot ar gyfer ap rheoli gofal clwyfau.

Mae ein harweinydd prosiect dynodedig wedi bod yn amhrisiadwy i ni. Mae hi wedi darparu cefnogaeth rhaglen hanfodol ynghyd â rhoi cyfeiriad a strwythur clir i ni. Mae hi hefyd wedi gweithio gyda ni i ddatblygu cynllun clir ar gyfer mabwysiadu ac i’n sbarduno i ystyried gofynion cyflwyno ehangach.
Mark Thomas, Cyfarwyddwr i Celf Creative Agency
“Drwy weithio mewn partneriaeth â DGH Pharma, ar ôl cael ein cyflwyno iddynt gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydyn ni’n gobeithio tyfu busnes DGH yn ogystal â chyflogi rhagor o staff cynhyrchu mewn dau faes: creadigrwydd a thechnoleg. Gan ystyried yr help sydd ei angen ar fusnes newydd sydd â'r uchelgais o uwchraddio dros gyfnod byr o amser, mae’r angen am greadigrwydd, marchnata a thechnoleg o’r radd flaenaf yn hanfodol.

Byddwn yn cynyddu maint ein gweithlu drwy ychwanegu rhwng 4 a 6 o weithwyr ar draws dwy adran. Golyga hyn y bydd angen cynnal hyfforddiant yn fewnol ac yn allanol er mwyn galluogi uwch aelodau ein sefydliad i gynnal y safonau uchel sy’n ofynnol gan DGH Pharma. Bydd yr argraff a gaiff hyn ar y busnes yn ein helpu i gynyddu ein trosiant 20-25% a fydd, yn ei dro, yn diogelu’r gweithlu ac yn ein galluogi i agor drysau ar gyfer cyfleoedd newydd i sectorau busnes eraill.”
Simon Jones, Prif Swyddog Gweithredol i Energist Medical Group
“Mae fy mhrofiad personol i o’r rhaglen Cyflymu wedi bod yn gwbl anhygoel. Mae pawb wedi cyfrannu at gyflawni’r allbwn sydd wedi rhagori ar fy nisgwyliadau. Rwy'n ddiolchgar iawn ac yn falch ein bod wedi cael y cyfle i gydweithio."
Tandeep Gill, Uwch Reolwr Datblygu Busnes, PainChek UK
“Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi rhoi cyfleoedd amhrisiadwy i ni siarad â phobl ddylanwadol ledled Cymru. O’r cychwyn cyntaf, roedd hi’n hawdd iawn i siarad ag arweinydd ein prosiect ac roeddem yn gwerthfawrogi hynny. Gofynnodd lawer o gwestiynau am PainChek a gwelodd y potensial i’w ddefnyddio ym maes gofal cymdeithasol. O ganlyniad i waith caled y tîm yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae PainChek bellach ar yr agenda genedlaethol ac rydym yn ceisio creu achos busnes unwaith eto i’w gyflwyno ledled Cymru.

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn dîm amlochrog sy’n fedrus iawn o ran cael gafael ar y bobl iawn, ar yr adeg iawn. Mae’n nhw bob amser yn gwneud yr hyn maen nhw’n ei ddweud, ac mae’r gwaith partneriaeth rydym wedi’i sefydlu dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn allweddol i’n llwyddiant. Heb Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, ni fyddem yn y sefyllfa hon heddiw. Ar y cyfan, maen nhw’n ddylanwadol, yn gefnogol ac yn frwdfrydig a dyma sy’n gyrru’r arloesedd ymlaen i’r lle mae ei angen fwyaf.”
Matt Lloyd, Arweinydd Rhaglen Technoleg Gynorthwyol o BPRG
“Mae ein harweinydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi bod yn wych ac wedi rhoi mynediad i ni at amrywiaeth o wasanaethau nad oeddem yn ymwybodol ohonynt ar y pryd neu nad oeddem yn eu defnyddio ar hyn o bryd. Mae ein partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi arwain at sgan marchnad cynhwysfawr, profi cynnyrch newydd yng Ngwent, a chymorth cynllunio digwyddiadau. Mae Aimee wedi rhoi arweiniad clir i ni, wedi egsor ar gyfleoedd newydd, ac - yn bwysicaf oll - wedi darparu cymorth ymarferol sy’n arbed amser ac adnoddau. Edrychwn ymlaen at barhau â’n perthynas a defnyddio’r gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael.”
Gadewch i ni siarad!
P’un ai ydych chi’n fusnes bach, yn gwmni rhyngwladol ar raddfa fawr neu’n ddarparwr iechyd a gofal cymdeithasol, rydym ni yma i helpu drwy ein hamrywiaeth eang o wasanaethau cymorth.
Dysgwch sut gallwn ni helpu i gyflymu eich arloesedd
Life Sciences Hub logo Welsh Government logo
  • Amdanom ni
    • Croeso
    • Ein Effaith
    • Ein Pobl
    • Ein Blaenoriaethau
    • Ein Cylchlythyr
    • Tystebau
    • Ymuno â'n tîm
  • Ein Cefnogaeth
    • Datblygu Achos Busnes
    • Cefnogaeth Cyllido
    • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • Diwydiant
    • Rhaglenni
    • Gwybodaeth Sector
    • Rheoli Prosiectau
  • Prosiectau
  • Adnoddau
    • Cyflawni Arloesedd
    • Rhwydweithiau
    • Cylchlythyrau o'r Sector
  • Ymholiadau
  • Newyddion
  • Astudiaethau achos
  • Blog
  • Podlediad
  • Digwyddiadau
Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
3 Assembly Square
Cardiff Bay
CF10 4PL

Rhif ffon: : +44 (0)29 2046 7030

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg

E-bost : helo@hwbgbcymru.com
  • Facebook
  • Twitter
  • Linked In
  • Youtube
  • Hygyrchedd
  • Llywodraethu
  • Telerau
  • Preifatrwydd
  • Sitemap
© 2023 Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru