Cyflwynir y ddarlith hon gan yr Athro Mark J Nieuwenhuijsen, arbenigwr blaenllaw ar effaith amgylcheddol, epidemioleg ac iechyd o ISGlobal. Gallwch ddewis bod yn bresennol wyneb yn wyneb neu’n rhithiol.
Mae dinasoedd yn gartref i hanner poblogaeth y byd, a disgwylir i hyn gynyddu i bron 70% erbyn 2050. Er mai dinasoedd sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o allyriadau CO2 dynol, mae’n bosibl mai dinasoedd fydd yn gyfrifol am ddatrys ein hargyfwng hinsawdd – os byddwn yn eu hadeiladu’n iawn. Yn y ddarlith hon, bydd Mark yn tynnu sylw at effeithiau dinasoedd ar yr hinsawdd a sut mae hyn yn effeithio ar iechyd y boblogaeth; yn archwilio rôl hanfodol dinasoedd o ran gweithredu ar yr hinsawdd i leihau allyriadau CO2 ac yn myfyrio ar fodelau trefol newydd, fel cymdogaethau traffig isel Llundain, sy’n hyrwyddo dinasoedd iachach y gellir byw ynddynt sy’n fwy niwtral o ran yr hinsawdd.
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i fynychu'r digwyddiad yma mewn person yw 16 Hydref.