Ymunwch â'r digwyddiad wyneb yn wyneb hwn i ddeall pam mae dulliau atal yn allweddol i gefnogi bywydau iachach a sut gellir eu gwireddu.
Ar hyn o bryd mae consensws rhyfeddol ar draws melinau trafod, sefydliadau a phleidiau gwleidyddol bod symud tuag at wladwriaeth ataliol yn allweddol i greu cenedl iachach. Gall dull ataliol gefnogi bywydau mwy ffyniannus ar yr un pryd â mynd i’r afael â llawer o broblemau’r system iechyd a gofal, gan ganiatáu ar gyfer rheoli iechyd y boblogaeth mewn modd rhagweithiol a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Yn y digwyddiad hwn, cyflwynwyd y ddadl ynghylch sut gall atal greu cenedl iachach, pam mae’n arbennig o bwysig nawr, a chamau gweithredu pendant ar sut gellir gwneud y newid hwn ar lefel genedlaethol, ar lefel system ac ar lefel leol.