Ymunwch â'r prif ddigwyddiad i ddatgloi potensial cadwyn gwerth therapi celloedd a genynnau, gan gynnwys darganfod, datblygu a masnacheiddio llwyddiannus.
Yn cynnwys Cyngres Meithrin Celloedd, Cyngres Datblygu Therapi Uwch, a Chyngres Gweithgynhyrchu Therapi Celloedd a Genynnau, mae’r digwyddiad hwn yn llwyfan pwrpasol ar gyfer rhoi trosolwg cynhwysfawr ar ddatblygiadau ym mhob cam o gadwyn gwerth therapi celloedd a genynnau. Bellach, mae Cell 2024 wedi datblygu i fod yn dridiau o Gyngres sy’n cynnig trafodaethau panel, ar lefel weithredol a phrif weithredol, ar bynciau hanfodol ym maes therapi celloedd a genynnau.
Ar ben hynny, rydyn ni’n falch iawn o gyflwyno ein trac Arloesi a Chydweithio newydd sbon, sydd wedi’i ddylunio i dynnu sylw at gyflwyniadau arloesol gan gwmnïau deillio a biotechnolegau newydd.