Trydydd parti
,
-
Manchester Central Convention Complex Ltd. Petersfield M2 3GX

Ymunwch â ni yng nghanolfan Manchester Central wrth i ni a GIG Lloegr ddod ag arweinwyr iechyd a gofal a’u timau ynghyd yn un o’r cynadleddau mwyaf ym maes iechyd a gofal.     
 

NHS ConfedExpo

Bydd ConfedExpo y GIG 2024 yn un o’r cynadleddau mwyaf a mwyaf arwyddocaol ym maes iechyd a gofal yn y DU, gan ddenu dros 5,400 o gynrychiolwyr dros ddau ddiwrnod. 

Bydd y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal mewn partneriaeth gan Gonffederasiwn GIG a GIG Lloegr, yn dod ag arweinwyr iechyd a gofal a’u timau at ei gilydd unwaith eto. Byddwch yn cael y cyfle i rwydweithio ag arweinwyr a rheolwyr sydd â’r gallu i arwain a sbarduno newid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â mynychu llu o sesiynau theatr a theatrau dysgu. 

Dros ddau ddiwrnod, nod ConfedExpo y GIG yw rhannu dysgu ac arferion gorau, annog arloesi, a darparu cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr.    
 

Archebwch eich tocyn