Trydydd parti
,
-
,
Hoffai Swyddfa'r Prif Swyddog Gwyddonol yn GIG Lloegr eich gwahodd i'r gyfres hon o weminarau gwyddor gofal iechyd. Pwrpas y gweminarau hyn yw darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ac ennyn diddordeb gwyddonwyr gofal iechyd proffesiynol.

Bydd y weminar gyntaf yn canolbwyntio ar y gweithlu gwyddor gofal iechyd. Bydd yn cael ei chynnal ddydd Llun 30 Mehefin 2025 rhwng 11am a hanner dydd. Bydd yn rhoi trosolwg o’r gweithlu gwyddor gofal iechyd gan gynnwys y data a’r wybodaeth ddiweddaraf, astudiaethau achos i arddangos amrywiaeth a chyfraniadau gwyddonwyr gofal iechyd ar draws nifer o ddisgyblaethau, a chynlluniau a datblygiadau mewn addysg a hyfforddiant.