Eleni, bydd yr uwchgynhadledd flaenllaw flynyddol yn arddangos ymchwil ddiweddaraf MIT, a datblygiad technoleg dyngedfennol megis deallusrwydd artiffisial, symudedd, gwyddor bywyd, technoleg y gofod, microelectroneg, a chyfrifiadureg cwantwm.
Bydd y mynychwyr yn cael cyfle i glywed gan ymchwilwyr adnabyddus a chyfadrannau MIT, busnesau newydd sy’n gysylltiedig â’r MIT drwy Gyfnewidfa Dechrau Busnes MIT, yn ogystal â chynrychiolwyr corfforaethol a siaradwyr gwadd o gwmnïau byd-eang.
Yn ogystal â'r darganfyddiadau technolegol diweddaraf, bydd mewnwelediadau a safbwyntiau amhrisiadwy ar greu cynlluniau arloesi cydlynol i ddefnyddio’r dechnoleg i gael effaith gadarnhaol. Bydd hefyd sylw arbennig i ymchwil ddiweddaraf gan Microsystems Technology Laboratories (MTL) i ddathlu syniadau arloesol wrth nodi 40 mlynedd o’r MTL yn y MIT.