Trydydd parti
-
Earlham Institute, Norwich Research Park, Norwich NR4 7UZ

Mae digwyddiadau EI Innovate yn gyfle i gynnal sgyrsiau gwerthfawr rhwng y byd academaidd a’r diwydiant, gan helpu i feithrin partneriaethau strategol a dysgu mwy am anghenion rhanddeiliaid.

A group of people sitting and listening to a man speaking at a conference

Bob blwyddyn, mae EI Innovate yn dod â mynychwyr ynghyd o amrywiaeth o sectorau gwahanol, gan gynnwys y sector bwyd-amaeth, biotechnoleg a thechnoleg feddygol, yn ogystal â chlinigwyr, datblygwyr offerwaith, cyfarpar a chynhyrchion a gwasanaethau genomeg a biowybodeg. 

Bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb hefyd i gyllidwyr arloesedd ym maes gwyddorau bywyd, adrannau’r llywodraeth a sefydliadau academaidd eraill. Eleni, bydd sylw ar bartneriaid a chydweithwyr, gan ddangos sut mae cyd-ymdrechion yn mynd i’r afael â heriau ac yn sbarduno effaith yn y byd go iawn drwy gynnal ymchwil arloesol, datblygu technoleg, arloesedd, cyfnewid gwybodaeth a datblygu sgiliau perthnasol.

Archebwch eich lle.