Trydydd parti
-
Ar lein / Canolfan Gynadledda Prifysgol De Cymru Heol Llanilltud, Trefforest, Pontypridd CF37 1DL

Mae croeso i gynrychiolwyr gofrestru ar gyfer trydydd cyfarfod 2024 ar gyfer Fforwm Diwydiant Canser Cymru.

People networking at an event

Sefydlwyd Fforwm Diwydiant Canser Cymru i gynyddu cynhwysiant, cynrychiolaeth a chydweithio gyda’n rhanddeiliaid ym myd diwydiant, ac i roi cyfle i’r sefydliadau hynny roi mewnbwn ar ganlyniadau canser yng Nghymru. Mae’r Fforwm yn fodd o ddod â byd diwydiant, Rhwydwaith Canser Cymru a rhanddeiliaid ehangach at ei gilydd.  Prif ddiben y Fforwm Diwydiant yw darparu dull ychwanegol o ymgysylltu rhwng y sefydliadau fferyllol, biotechnoleg a sefydliadau masnachol eraill a’r GIG yng Nghymru. Mae’n galluogi cyfathrebu a chynrychiolaeth dryloyw ar draws y sector, ac yn cydlynu’r nodau strategol a’r adnoddau o fewn y sector trwy weithio mewn partneriaeth a chydweithio.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno gyda’r opsiwn o ymuno’n bersonol neu’n rhithwir. Dewiswch eich hoff ddull o fynychu wrth gofrestru.

Archebwch eich lle.