Cyfle i archwilio'r dirwedd newidiol a chael mewnwelediad gwerthfawr i'r cyfleoedd a heriau a ddaw i fusnesau.
P'un a ydych chi'n berchennog busnes, yn wneuthurwr penderfyniadau, neu'n angerddol am y diwydiant, mae'r digwyddiad hwn wedi'i gynllunio i ddarparu mewnwelediadau hanfodol a syniadau ymarferol a fydd yn annog meddwl, arloesi a thwf o fewn eich busnes.
Ymunwch â ni yng Ngholeg Gwent i glywed gan arbenigwyr yn y diwydiant ac arweinwyr meddwl a fydd yn trafod y tueddiadau, y cyfleoedd, a’r heriau diweddaraf wrth lunio dyfodol gweithgynhyrchu. Gyda phrif areithiau amhrisiadwy, cipolwg ar HiVE - y Ganolfan Beirianneg Gwerth Uchel newydd yng Ngholeg Gwent - a sesiwn Holi ac Ateb gyda phanel deinamig. Mae'r sesiwn yn addo rhoi gwybodaeth a meddwl newydd i chi am strategaethau a all gefnogi eich busnes yn y dirwedd esblygol hon.
Cyflwynir y digwyddiad hwn gan Goleg Gwent, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, PDC, Prifysgol Caerdydd, a Met Caerdydd, gan ddod ag arbenigedd a sefydliadau’r diwydiant ynghyd, sy’n helpu i lunio dyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru.
Pam mynychu?
- Ennill Mewnwelediadau Unigryw: Clywch yn uniongyrchol gan arbenigwyr yn y diwydiant am ddyfodol gweithgynhyrchu a'r technolegau sy'n ysgogi newid.
- Dysgu o Astudiaethau Achos y Byd Go Iawn: Dod i ddeall cymwysiadau ymarferol a straeon llwyddiant gan fusnesau sy'n arwain y ffordd ym maes arloesi gweithgynhyrchu.
- Cymryd rhan mewn sesiwn Holi ac Ateb deinamig: Gofynnwch i banel o weithwyr proffesiynol profiadol sy'n deall heriau'r diwydiant ateb eich cwestiynau llosg.
- Ehangu Eich Rhwydwaith: Cysylltwch â gweithwyr proffesiynol o'r un anian ac arweinwyr diwydiant yn ystod y sesiwn rwydweithio.