Ymunwch â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, M-SParc, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ysgol Feddygol Gogledd Cymru mewn gweminar fer i ddysgu sut gall y rhaglen Iechyd a Mwy gefnogi arloeswyr i ddatblygu syniadau a allai wneud gwahaniaeth i iechyd a gofal cymdeithasol yng ngogledd Cymru.
Mae gan ogledd Cymru ecosystem arloesi iechyd sy’n tyfu, ond gall fod yn anodd i arloeswyr wybod ble i fynd i gael cymorth, â phwy i siarad, neu sut mae gwneud yn siŵr bod eu syniad yn ymateb i anghenion y system.
Bydd y sesiwn hon yn eich cyflwyno i’r rhaglen Iechyd a Mwy, yn egluro’r math o gymorth sydd ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus ac yn esbonio sut mae gwneud cais. Bydd cyfranogwyr blaenorol, Healthcare Matters, hefyd yn rhannu eu profiad o fod ar y rhaglen y llynedd a sut mae Iechyd a Mwy wedi helpu i ddatblygu eu harloesedd.
Pam dod i’r weminar?
Os oes gennych syniad arloesol a allai helpu i wella iechyd a gofal cymdeithasol yng ngogledd Cymru, bydd y weminar hon yn eich helpu i ddeall ai Iechyd a Mwy yw’r rhaglen gymorth iawn i chi.
Byddwch yn dysgu mwy am y rhaglen, y broses ymgeisio, y cymorth sydd ar gael a’r math o syniadau y mae Iechyd a Mwy yn awyddus i’w cefnogi.
Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer Iechyd a Mwy yn dod i ben ar 1 Tachwedd 2026.
Pwy ddylai ddod?
Mae’r weminar ar gyfer busnesau bach a chanolig, busnesau newydd, ymchwilwyr, cwmnïau sy’n deillio o brifysgolion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a sefydliadau sy’n datblygu cynhyrchion, gwasanaethau neu dechnolegau a allai wella iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r weminar yn rhad ac am ddim a bydd yn cael ei chynnal ar 22 Hydref 2026. Gallwch weld manylion llawn y digwyddiad a chadw eich lle yma.