Ymunwch â LEAP ar gyfer Gŵyl Iechyd Digidol Cymru – prynhawn deinamig sy’n dod ag ymchwilwyr, ymarferwyr, technolegwyr a lleisiau o’r gymuned ynghyd i archwilio dyfodol iechyd a gofal drwy drawsnewid digidol.

Mae'r digwyddiad hwn, a gynhelir yn Adeilad Sbarc|Spark ym Mhrifysgol Caerdydd, yn arddangos sut mae technolegau a yrrir gan ddata yn gallu cael eu paru â gweithgarwch cyd-greu i fynd i'r afael â heriau iechyd a gofal yng Nghymru a’r tu hwnt.
Gyda sgyrsiau sy'n procio'r meddwl, trafodaeth banel fyw, a gwib-gyflwyniadau gan ymchwilwyr sy'n dod i'r amlwg, bydd y digwyddiad hwn yn dathlu sut mae data, dylunio a phrofiad bywyd yn llywio'r genhedlaeth nesaf o atebion gofal iechyd.
Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, y diwydiant, ac academyddion.