Ymunwch â ni yn y digwyddiad hwn i archwilio beth mae meddwl yn wahanol am newid ar draws y system iechyd yn ei olygu.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau, astudiaethau achos o reoli gwahanol fathau o newid a gweithdai pwyso a mesur rhithiol (camera ymlaen). Bydd y sesiynau’n rhoi gwybodaeth ymarferol i annog y rheini sy’n gweithio mewn systemau gofal integredig, darparwyr, awdurdodau lleol, iechyd y cyhoedd, gofal cymdeithasol a thu hwnt i feddwl am sut mae newid yn bosibl, a sut mae rheoli’r newid hwnnw.
Bydd y sesiynau’n archwilio sut mae creu diwylliannau, timau a sefydliadau sy'n gallu addasu'n well i fanteisio i'r eithaf ar ddatblygiadau mewn technoleg ac arferion arloesol, a’r hyn y mae’n ei olygu i ddatblygu diwylliant sy'n cefnogi newid cymhleth o fewn systemau cymhleth.
Gyda chefnogaeth arbenigwyr o dimau Arweinyddiaeth a Datblygu Sefydliadol a Pholisi The King’s Fund, bydd y rhai sy’n bresennol yn cael cyfle i bwyso a mesur a thrafod beth maen nhw’n ei glywed, gan ddysgu o’u profiadau eu hunain mewn sesiynau Zoom (camera ymlaen) a gynhelir fel rhan o raglen y gynhadledd.