Trydydd parti
-
The Düsseldorf Exhibition Centre, D-40474 Düsseldorf, Yr Almaen

MEDICA – y ffair fasnach ar gyfer technoleg feddygol a gofal iechyd. Rhwng 11 a 14 Tachwedd 2024, bydd MEDICA unwaith eto yn dod ag arbenigwyr rhyngwladol o’r diwydiant meddygol ynghyd yn Düsseldorf, yr Almaen.

A large group of people at a conference, mingling and networking

Gyda dros 5,300 o arddangoswyr o bron i 70 o wledydd, ac 83,000 o ymwelwyr, MEDICA yn Düsseldorf yw un o’r ffeiriau masnach busnes-i-fusnes meddygol mwyaf yn y byd. Caiff amrywiaeth eang o gynnyrch a gwasanaethau arloesol eu cyflwyno yma – o feysydd delweddu meddygol, technoleg labordai, diagnosteg, TG iechyd, iechyd symudol, yn ogystal â thechnoleg ffisiotherapi/orthopedeg a deunyddiau traul meddygol. 

Mae’r rhaglen helaeth o fforymau blaenllaw, cynadledddau, a sioeau arbennig yn gyfle i weld cyflwyniadau diddorol a chael trafodaethau ag arbenigwyr a gwleidyddion. Hefyd, fe gyflwynir cynnyrch newydd ac fe gynhelir seremonïau gwobrwyo.

Cofrestrwch eich lle heddiw.