Mae Cynhadledd MediWales Connects yn gynhadledd y GIG ar gyfer Cymru gyfan. Ymunwch â gweithwyr y GIG o bob cwr o Gymru, cwmnïau lleol a’r sector diwydiant ehangach i rannu arloesedd clinigol yn ymarferol er mwyn gwella canlyniadau i gleifion.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim i staff y GIG.
Mae’r digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau, gweithdai a rhwydweithio.
Nodau’r gynhadledd yw:
-
Tynnu sylw at ac arddangos y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan y cymunedau iechyd a gofal yng Nghymru.
-
Gwella cydweithio rhwng y byrddau iechyd, y diwydiant a chymunedau ymchwil.
-
Codi proffil GIG Cymru ac arloesedd clinigol ledled y DU.
-
Cefnogi perthnasoedd gwaith agosach rhwng diwydiant, y GIG a grwpiau ymchwil a galluoedd treialon clinigol.
I ganfod mwy, cysylltwch â connects@mediwales.com.
Y partneriaid yn y gynhadledd yw GIG Cymru, Llywodraeth Cymru ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.