Trydydd parti
-
2 Brewery Wharf, Kendall Street, Leeds LS10 1JR

Yn cael ei gyflwyno gan Rwydwaith Arweinwyr Benywaidd ym Maes Iechyd a Gofal Conffederasiwn y GIG – Ymunwch â ni ddydd Mercher, 11 Rhagfyr yn Leeds ar gyfer wythfed gynhadledd flynyddol y rhwydwaith.

A woman speaking at a conference

Eleni, bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar gefnogi datblygiad personol a phroffesiynol y cynadleddwyr a darparu lle i ddysgu a rhwydweithio. Bydd y rhaglen yn edrych ar waith sy’n mynd rhagddo yn y sector a’r rhwydwaith i ddatblygu cydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan ganolbwyntio ar sut gall menywod a chynghreiriaid ddod at ei gilydd i chwalu rhwystrau a sbarduno atebion arloesol.

Ar y diwrnod, bydd y cynadleddwyr yn cymryd rhan mewn rhaglen ryngweithiol gyda chyfleoedd i rwydweithio, dysgu a datblygu. Byddwch yn gwrando ar siaradwyr ysbrydoledig yn rhannu straeon a byddwch yn ymuno â thrafodaethau a dadleuon bywiog ar y materion cyfredol sy’n herio ein sector a thu hwnt, gan gynnwys atebion cydweithredol ar gyfer tegwch rhywedd, arloesi yn y gweithlu, cynnal cydbwysedd bywyd a gwaith a mwy.

Cofrestrwch eich lle.