Trydydd parti
,
-
,
ICC Wales, Coldra Woods, Newport NP18 1DE

Mae’r digwyddiad blynyddol hwn wedi ymrwymo i helpu gweithwyr caffael proffesiynol i sicrhau canlyniadau gwell i’w sefydliadau, ar yr un pryd â chael effaith gadarnhaol ar bobl a chymunedau ledled Cymru.

Two women talking at a conference, they are both holding coffee cups

Bydd digwyddiad 2024 yn cael ei gyflwyno ar y cyd â Llywodraeth Cymru ac yn cael ei gynnal yn y ganolfan gynadledda ac arddangos fwyaf newydd yng Nghymru, a bydd yn tynnu sylw at gyfleoedd i fusnesau sydd eisoes yn gweithio gyda’r sector cyhoeddus, a’r rheini sy’n bwriadu mentro i sectorau neu feysydd gwasanaeth newydd. 

Bydd siaradwyr arbenigol yn darparu cyfres o gyflwyniadau a gweithdai rhyngweithiol sy’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys sbarduno arbedion effeithlonrwydd drwy ddefnyddio technolegau newydd a deallusrwydd artiffisial, a chyflawni caffaeliadau a chontractau sy’n sicrhau canlyniadau gwell o ran llesiant. 

Ar 28 Hydref 2024, bydd y newidiadau a nodir yn Neddf Caffael 2023 yn dod i rym. Ewch i Procurex Cymru 2024 i gael gwybod beth yn union mae hyn yn ei olygu i chi fel gweithiwr caffael proffesiynol, neu fel sefydliad sy’n awyddus i wella’r ffordd rydych chi’n gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau i sefydliadau yn y sector cyhoeddus.

Mae'r digwyddiad hwn am ddim i sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector.

Cofrestrwch eich lle.