Ymunwch â RESILIENCE Cymru: Digwyddiad Lansio ar 9 Gorffennaf.

Canolfan Ragoriaeth yw RESILIENCE sydd wedi ei dylunio i ddatblygu sgiliau o’r radd flaenaf ym maes Gweithgynhyrchu Meddyginiaethau. Mae’r ganolfan yn canolbwyntio’n bennaf ar gael effaith yng Nghymru ac ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig. Mae'n denu’r diwydiant a’r byd academaidd i greu hyfforddiant ymarferol sy’n edrych tua’r dyfodol ac yn cynnwys y technolegau a’r anghenion rheoleiddio diweddaraf. Drwy fuddsoddi mewn sylfaen sgiliau yng Nghymru, mae RESILIENCE yn cefnogi swyddi newydd uchel eu gwerth a thwf economaidd - gan roi statws allweddol i Gymru yn nyfodol sector Gwyddorau Bywyd y Deyrnas Unedig.
Ymunwch i glywed am nodau RESILIENCE a'r cyfleoedd i ddatblygu a geir yn y ffrwd o dalentau gwyddorau bywyd yng Nghymru, gan gynnwys siaradwyr o'r diwydiant, o fyd addysg, ac o Lywodraeth Cymru. Bydd cyfle i rwydweithio dros ddiod wedyn.
Enghreifftiau o’r gefnogaeth y mae RESILIENCE yn ei chynnig:
- Adnoddau Rhad ac am ddim am Ddysgu a Gyrfaoedd: Defnyddiwch ddeunyddiau hyfforddi sydd wedi eu cymeradwyo gan RESILIENCE i ddarparu hyfforddiant a chyngor gyrfaol.
- Hyfforddiant i'r holl rwydwaith: Hyfforddiant o ansawdd sydd yn berthnasol i’ch maes er mwyn gwella sgiliau a chefnogi datblygiad proffesiynol.
- Hyfforddiant Arweinyddiaeth: Rhaglen rad ac am ddim sydd yn darparu hyfforddiant i arweinwyr y dyfodol ym mhob rhan o’r sector yn y Deyrnas Unedig. Ar gael i aelodau yn unig.
- Cyfleoedd dysgu arloesol gyda thechnolegau rhithwir: Mae aelodaeth lawn yn cynnwys caniatâd i ddefnyddio ein pensetiau a’n meddalwedd rhithwir, hyfforddiant i hwyluso ac i’ch cynorthwyo i ddefnyddio’r technolegau hyn a mynediad at gynnwys technegol a sgiliau meddal.