Mae'r gynhadledd Proffesiynau Perthynol i Iechyd yn cael ei datblygu ar y cyd â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i ddangos effaith a gwerth Proffesiynau Perthynol i Iechyd i'r boblogaeth yng Nghymru.
Mae’r gynhadledd hon yn rhoi llwyfan i weithwyr proffesiynol ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau Proffesiynol Perthynol i Iechyd rannu eu datblygiadau arloesol, ymyriadau neu ymchwil yn y gwasanaeth. Mae'n bleser gennym eich gwahodd i gyflwyno eich posteri cryno i'w hystyried. Mae eich cyfranogiad yn hanfodol i lwyddiant y digwyddiad hwn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld eich cyfraniadau.
Sylwer bod yn rhaid i bob cyflwyniad cryno gael ei dderbyn erbyn dydd Llun 26 Awst 2024 fan bellaf a’i gyflwyno drwy’r ffurflen gyflwyno. Ni fydd unrhyw grynodebau a gyflwynir heb ddefnyddio’r ffurflen gyflwyno yn cael eu hystyried.