Mae Technoleg Iechyd Cymru a MediWales am gynnal digwyddiad sy'n anelu at godi ymwybyddiaeth o'r llwybr i'r farchnad ar gyfer technolegau meddygol a diagnosteg yng Nghymru.
Mae Technoleg Iechyd Cymru a MediWales am gynnal digwyddiad sy'n anelu at godi ymwybyddiaeth o'r llwybr i'r farchnad ar gyfer technolegau meddygol a diagnosteg yng Nghymru, a'r dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer asesu technoleg iechyd ac yn y pen draw, mabwysiadu’r dechnoleg iechyd gan y GIG.
Bydd cyfle hefyd i glywed cyflwyniadau gan gwmnïau gwyddor bywyd am y technolegau iechyd maen nhw wedi'u datblygu ac yna, bydd cwestiynau gan banel o arbenigwyr.
Yna, bydd cynrychiolwyr o fyrddau iechyd a chaffael y GIG yn siarad ynghylch mabwysiadu technolegau iechyd, a sut maen nhw’n monitro mabwysiadu canllawiau NICE a Iechyd Technoleg Cymru.