Mae’n bleser gennym eich gwahodd i gymryd rhan yn y Gynhadledd Ryngwladol gyntaf ar Ddeallusrwydd Artiffisial mewn Gofal Iechyd a gynhelir yn Abertawe rhwng dydd Mercher 4 Medi a dydd Gwener 6 Medi 2024.
Nod AIiH yw darparu llwyfan amlwg ar gyfer ymchwilwyr ac ymarferwyr sydd wedi ymrwymo i wella gofal iechyd gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial modern.
Rydym yn cydnabod bod ceisiadau gofal iechyd yn cyflwyno heriau cymhleth ac unigryw weithiau ar draws sbectrwm eang, o foeseg i ddatblygiadau technegol, a bod dulliau deallusrwydd artiffisial cyffredinol yn aml yn annigonol. Drwy greu’r fforwm pwrpasol hwn, rydym yn annog pobl i drafod a lledaenu atebion a thechnolegau deallusrwydd artiffisial effeithlon ac effeithiol ar gyfer gofal iechyd, ac yn ein tro rydym yn gobeithio dylanwadu ar yr ymchwil, mabwysiadu technoleg a gwneud penderfyniadau ym maes gofal iechyd.
Mae’r gynhadledd yn croesawu cyflwyniadau o waith ymchwil newydd yn y meysydd canlynol:
- Moeseg Deallusrwydd Artiffisial mewn Gofal Iechyd
- Dadansoddeg Ragfynegol mewn Gofal Iechyd
- Gofal rhagweithiol ac ymyrraeth ragfynegol wedi’u llywio gan Ddeallusrwydd Artiffisial
- Gwneud diagnosis ac atal ar gam cynnar wedi’u llywio gan Ddeallusrwydd Artiffisial
- Dulliau dysgu dwfn a pheirianyddol ar gyfer data iechyd
- Prosesu delweddau a signalau meddygol
- Prosesu meddygol â chymorth Deallusrwydd Artiffisial (CT, MRI, uwchsain, histopatholeg ac ati)
- Patholeg / niwroleg ddigidol a rhithiol
- Deallusrwydd Artiffisial mewn Ffarmacoleg: darganfod cyffuriau a’u datblygu
- Paru Digidol wedi’i lywio gan Ddeallusrwydd Artiffisial ym maes Oncoleg/Meddygaeth
- Meddygaeth Fanwl a Deallusrwydd Artiffisial
- Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer sgrinio a darganfod cyffuriau
- Gofal iechyd personol wedi’i arwain gan Ddeallusrwydd Artiffisial
- Dadansoddi data carfannau ar raddfa fawr â chymorth Deallusrwydd Artiffisial
- Dylunio Deallusrwydd Artiffisial sy’n canolbwyntio ar y claf
- Technoleg byw â chymorth
- Optimeiddio ac awtomeiddio llif gwaith ym maes gofal iechyd
- Roboteg wedi'i llywio gan Ddeallusrwydd Artiffisial ar gyfer gofal iechyd
- Deallusrwydd Artiffisial ym maes iechyd meddwl
- Data a phreifatrwydd cleifion
- Deallusrwydd Artiffisial mewn systemau rheoli iechyd rhagweithiol.