Trydydd parti
-
Ledled y wlad

Dyma’ch cyfle i gymryd rhan mewn wythnos sy’n canolbwyntio ar bopeth sy’n ymwneud â Thechnoleg Ddigidol a Deallusrwydd Artiffisial.

A map of the UK

Dyma’ch cyfle i gymryd rhan mewn wythnos sy’n canolbwyntio ar bopeth sy’n ymwneud â Thechnoleg Ddigidol a Deallusrwydd Artiffisial. P’un a ydych chi’n archwilio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, yn dysgu am Ddeallusrwydd Artiffisial er Gwell, yn meistroli penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata, neu’n hyrwyddo cynhwysiant digidol, mae rhywbeth at ddant pawb!

Bydd Wythnos Arweinwyr Digidol yn wythnos genedlaethol, a bydd yn cynnwys digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb. O ddydd Llun i ddydd Gwener, bydd darlithoedd, sgyrsiau, cynadleddau a seremonïau gwobrwyo’n cael eu cynnal ledled y DU. Gyda dros 150 o siaradwyr arbenigol o’r sector cyhoeddus, busnes, elusennau a’r byd academaidd yn cymryd rhan, byddwch yn cael mynediad at arweinwyr agweddau sy’n llunio’r dyfodol ym maes technoleg ddigidol. A'r peth gorau oll? Mae pob digwyddiad yn rhad ac am ddim.

Beth i’w ddisgwyl: 

  • 12 o bynciau wedi’u teilwra sy’n ymdrin â’r tueddiadau a’r datblygiadau arloesol diweddaraf.
  • Sesiynau, dan arweiniad arbenigwyr, sydd wedi’u cynllunio i wella eich gwybodaeth am dechnoleg ddigidol a deallusrwydd
  • artiffisial.
  • Digwyddiadau wyneb yn wyneb a rhithwir unigryw sy'n hwyluso'r broses ryngweithio.
  • Gwybodaeth arloesol a fydd yn rhoi hwb i’ch sgiliau a’ch hyder ym maes deallusrwydd artiffisial. 

Peidiwch â cholli’r cyfle – archebwch eich lle yma