Trydydd parti
-
The Towers Hotel, Abertawe

Mae Comisiwn Bevan wedi agor ceisiadau ar gyfer Wythnos Dysgu Dwys Arloesedd 2024!

A group of people sitting around a laptop

Ydych chi angen help gyda her arloesi? Mae Comisiwn Bevan wedi agor ceisiadau ar gyfer Wythnos Dysgu Dwys Arloesedd 2024!

Gwnewch gais heddiw am un o’r 30 o leoedd sydd ar gael. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus, sy’n gweithio yng Nghymru, yn cael lle wedi’i ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr holl gostau’n cael eu talu, gan gynnwys y llety. Yr unig gost i chi fydd y costau teithio.

P’un a ydych chi’n newydd ymuno â'r sector gofal neu’n gweithio i arloesi a thrawsnewid gwasanaethau, dyma gyfle i chi weithio gydag arweinwyr i baratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf a’r tu hwnt.

Mae Wythnos Dysgu Dwys Arloesedd yn rhoi cyfle i chi gymryd seibiant ac ymuno â chyfoedion o’r un anian ac arbenigwyr sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol i ddatblygu atebion arloesol i'ch heriau chi o ran iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd yr wythnos breswyl hon yn eich galluogi i ddychwelyd i’ch rôl gyda syniadau, sgiliau ac atebion darbodus newydd i’w rhoi ar waith.

Bydd y rhaglen hon yn eich helpu i symud yn gyflymach, gan weithio gyda phobl sy’n frwd dros wneud gwahaniaeth a datblygu atebion arloesol i heriau presennol a rhai sy’n dod i’r amlwg.

Manteisiwch ar y cyfle unigryw hwn i ddod o hyd i’r atebion arloesol a chynaliadwy sydd eu hangen ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy 25 Awst 2024.

Darganfyddwch mwy a gwnewch cais.